Mwy o Newyddion
Shakespeare yn yr Ardd!
MAE’R cwmni theatr ‘Taking Flight’ yn teithio Cymru gyfan yr haf yma, ond dydd Sul nesaf (Gorffennaf 31), fe fyddan nhw’n perfformio Shake-spear yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Fe fydd Llanarthne yn cael ei droi’n Verona 1963 ar gyfer y cynhyrchiad o Romeo a Juliet, ac mae’n amser am ras gychod flynyddol y coleg, lle bydd rhai o’r crachach yn ceisio dod o hyd i gariad.
Ond mae amseroedd yn gythryblus, felly bydd rhaid i chi gefnogi’ch tŷ, pa un ai ei bod ym Montague neu Capulet, wrth iddynt frwydro ar yr afon.
Paratowch am gyffro – ac am berfformiad ar y promenâd yn llawn dop o wleddai i’r llygaid a chomedi. Am fwy o fanylion, gwelwch https://garddfo-taneg.cymru
Mae ‘Taking Flight’ yn gwmni theatr sy’n gweithio yng Nghymru, sy’n gweithio gydag actorion ac anabledd corfforol, â nam ar eu synhwyrau ac actorion heb anabledd i greu prosiectau theatr a ffilm sy’n hollol hygyrch. Maent yn rhedeg gweithdai i actorion a ddi-actorion i wella eu sgiliau a hyder.
Mae’r Ardd ar agor rhwng 10yb a 6yh. Y tâl mynediad yw £9.75 i oedolion gyda thocyn teulu (2 oedolyn a hyd at 4 o blant) yn £24. Does dim tâl ychwanegol am unrhyw weithgaredd dawnsio a cherddorol.