Mwy o Newyddion
Arbenigwr yn trin a thrafod tafodieithoedd traddodiadol
MAE ieithydd o Brifysgol Caerdydd yn astudio tafodieithoedd Cymraeg traddodiadol sydd ar fin diflannu yn yr ardal lle cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Gyda chymorth dau arbenigwr, bydd Dr Iwan Wyn Rees, o Ysgol y Gymraeg, hefyd yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng tafodieithoedd traddodiadol a recordiwyd yn ardal y Fenni, ag ardaloedd eraill y wlad.
“Yn dilyn poblogrwydd y drafodaeth banel a gafwyd y llynedd am dafodieithoedd Cymraeg Sir Drefaldwyn, bydd sesiwn eleni yn canolbwyntio ar dafodieithoedd sydd wedi’u recordio mewn ardaloedd ger y Fenni, gan gynnwys rhannau o Frycheiniog a Blaenau’r Cymoedd.
“Yn wahanol i’r sefyllfa yn Sir Drefaldwyn, fodd bynnag, mae’r tafodieithoedd Cymraeg yn yr ardaloedd hyn yn eithriadol o brin, neu wedi diflannu’n llwyr, oherwydd dirywiad y Gymraeg yn y rhannau hyn o Gymru.
“Oherwydd hynny, mae astudiaethau a gynhaliwyd yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif gan yr Athro Glyn Jones a Mary Wiliam, ymhlith eraill, yn amhrisiadwy ar gyfer ein dealltwriaeth o’r mathau o Gymraeg oedd yn cael ei siarad mewn ardaloedd sy’n aml yn cael eu disgrifio mannau ‘Seisnigaidd’ o Gymru.
”Bydd yr Athro Jones, cyn-bennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, a Mrs Wiliam, cyn-guradur ac ymchwilydd tafodieithoedd yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, yn ymuno â Dr Rees ar gyfer tafodaeth banel yn yr Eisteddfod am 12:00, ddydd Gwener nesaf, Awst 5.
Bydd Iwan Rees yn cyflwyno trafodaeth ar-all y diwrnod hwnnw am 14:00 ym Mhabell Llenyddiaeth Cymru am TJ Morgan a’i recordiadau o ‘siaradwyr Cymraeg olaf’ ardal y Fenni. Roedd TJ Morgan yn Athro Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ac yn dad i gyn-Brif Weinidog Cymru. Yn yr Eisteddfod y llynedd ym Meifod, Powys, defnyddiodd Dr Rees yr Eisteddfod i gasglu gwybodaeth am ddatblygiadau ieithyddol yng Nghymru.
“A minnau wedi bod yn canolbwyntio ar dafodieithoedd y canolbarth yn bennaf, mae pobl yn aml yn gofyn imi am y tebygrwydd rhwng nodweddion ieithyddol y canolbarth a’r ‘Wenhwyseg’, trafodiaith draddodiadol de-ddwyrain Cymru,” meddai.
“Heb os nac oni bai, bydd yr Athro Jones a Mary Wiliam yn gallu taflu goleuni ar y materion hynod ddiddorol hyn, yn ogystal ag esbonio’r cysylltiad rhwng Cymraeg Sir Frycheiniog a’r mathau eraill o Gymraeg.
“Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at chwarae recordiadau TJ Morgan o’r bobl yr oedd ef yn eu hy-styried fel ‘siaradwyr Cymraeg olaf’ ardal y Fenni.
“Cynhaliodd T J Morgan lawer o waith maes mewn ardaloedd lle’r oedd y Gymraeg yn dirywio.
Rwyf yn siŵr y bydd y disgrifiad byw ganddo yn un o’i belles-lettres am sut yr oedd yn gweld y Gymraeg yn marw - profiad symbolaidd iddo ar y pryd - o ddiddordeb i siaradwyr Cymraeg heddiw ac yn eu synnu’n fawr.”