Mwy o Newyddion
Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn rhoi llwyfan i ddoniau'r ifanc
MAE deugain a mwy o fyfyrwyr o bob cwr o Gymru wedi’u coroni ‘gyda’r gorau yn y wlad’ ar ôl ennill gwobrau aur mewn cyfres o gystadlaethau sy’n profi eu sgiliau mewn meysydd o ddylunio’r we i waith coed.
Cyfres o ddigwyddiadau dan nawdd Llywodraeth Cymru yw Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, sy’n dathlu sgiliau galwedigaethol a chreu gweithlu hyfedr ar gyfer Cymru’r dyfodol.
Roedd cyfres o grefftau gwahanol yn rhan o’r cystadlaethau, gyda 10 enillydd o’r diwydiannau creadigol, pump yn astudio cyrsiau’r gwasanaethau cymdeithasol a phroffesiynol, tri o’r sector TG a gweinyddu busnes, naw enillydd o’r sector peirianneg ac 13 o enillwyr o’r maes amgylchedd adeiledig.
Efallai y bydd enillwyr 16-24 oed o Gymru yn mynd ymlaen i gystadlu am le yng ngharfan Prydain ar gyfer WorldSkills yn Kazan, Rwsia, yn 2019.
Bu’n rhaid i’r enillydd Ellie Hanley, o Bont Fadlen, gwblhau cyfres o heriau marchnata gweledol o fewn pedair awr a hanner, a chreu arddangosfa ffenestr artistig ar y thema ‘ailgylchu ac ailddefnyddio’.
Dywedodd y ferch 16 oed, sy’n astudio diploma estynedig BTEC lefel 1 mewn ffasiwn a thecstilau, ei bod ar ben ei digon ar ôl ennill.
“Rydw i’n falch iawn mod i wedi ennill y gystadleuaeth, yn enwedig gan mai dim ond ers blwyddyn dw i wedi dechrau dysgu sut i greu arddangosfeydd. Rwy’n caru ffasiwn erioed ac yn teimlo fy mod yn dilyn fy ngyrfa ddelfrydol. Mae creu arddangosfeydd fel hyn yn gwneud i mi sylweddoli cymaint dw i’n mwynhau defnyddio dillad i arddangos cysyniadau artistig. “Dw i wedi cyffroi’n lân o fynd ymlaen i gam nesa’r gystadleuaeth a datblygu fy sgiliau.
Ar hyn o bryd, dw i’n gweithio yn Debenhams wrth astudio yn y coleg, ond gobeithio y bydda i’n cynllunio eu ffenestri nhw rhyw ddydd!” Cefnogir y gystadleuaeth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru, ac mae rhwydwaith o golegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn rhan ohoni. Cynhaliwyd cyfres o Gystadlaethau Sgiliau mewn sawl maes, o fecaneg ceir i ddylunio’r we a therapi harddwch, rhwng mis Chwefror a mis Mehefin.
Meddai Julie James AC, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: “Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, gwelsom gymaint o ddysgwyr dawnus o bob cwr o’r wlad yn cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru.
Bob blwyddyn, mae gan fyfyrwyr Cymru gyfle gwych i ddangos eu gallu gyda’r potensial i fynd ymlaen i gystadlu ar lwyfan byd.
“Mae’n braf gweld cymaint o bobl ifanc talentog yn cystadlu mewn ystod eang o sectorau. Gobeithio y bydd llwyddiannau’r enillwyr hyn yn annog myfyrwyr i roi cynnig ar sgiliau newydd a allai arwain at yrfa werth chweil.
“Rwy’n ymrwymo i annog pobl ifanc i ymchwilio i gyfleoedd gwaith a sicrhau eu bod nhw’n cael cymorth i wireddu eu dyheadau a’u breuddwydion.
Dymuniadau gorau i Ellie ac i bawb arall yn y rowndiau terfynol a’r enillwyr, nid yn unig yn rownd nesaf y cystadlaethau, ond yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”