Mwy o Newyddion
Difodiant yr iaith Gymraeg ar faes Y Fenni
Difodiant yr iaith Gymraeg ar faes Y Fenni…ond rhaid i wleidyddion hefyd feddwl am y gost i fywyd, meddai PAWB.
AR faes y Brifwyl eleni, fe fydd cyfle i chi glywed detholiad o opera newydd sbon sy’n seiliedig ar nofel Islwyn Ffowc Elis (1924-2004), Wythnos yng Nghymru Fydd a ysgrifennwyd yn 1956, union 60 mlynedd yn ôl. Cyfansoddwr yr opera yw Gareth Glyn a’r libretydd yw’r Prifardd Mererid Hopwood.
Yn y fersiwn newydd o’r stori, mae Tegid wedi gwahodd ei ffrind Ifan i aros ato am benwythnos yng Nghaer-dydd. Dau tra gwahanol eu hanian yw’r ddau gyfaill.
Tegid yn un sy’n barod i sefyll dros ei ddaliadau ac sy’n poeni am dranc y Gymraeg yn arben-nig. Ifan yn ddyn mwy ‘ffwrdd â hi’, ‘digon i’r diwrnod’, Mr Cyffredin.
Terfir o’r cychwyn ar yr ymlacio gydag ymweliad gwyddonydd o’r enw Dr Heinkel, cyfaill i Tegid, sy’n gweld yn Ifan bosibiliadau am ddyn a allai deithio i’r dyfodol. Yn arwr anhebygol, mae Ifan yn cytuno i fynd ar y daith, a hynny’n groes graen i ddechrau. Mae’n cyrraedd y flwyddyn 2033. Yma, nid yn unig mae’r gyfundrefn yn ymddangos yn berffaith, ond mae cariad yn dihuno yn Ifan wrth iddo gwrdd â Mair, merch i Dr Llywarch, gwyddonydd y dyfodol. Mae gan Mair ryw ddirnadaeth o’i phwer dros ddynion ac yn ceisio peidio ag annog serch Ifan. Mae hi hefyd yn gwybod am anesmwythid freuddwyd dragw-yddol dynoliaeth am fan gwyn man draw.
Tra bod Ifan yn syrthio mewn cariad â hi, mae e’n cael ei herwgipio gan yr unig rym sy’n staen ar y dyfodol perffaith: grym milwrol. Mae’r criw Crysau Porffau yn bwydo ar ofn cynhenid pobl.
Erys felly, yn ôl pob ymddangosiad, ddau beth yn wir am y dyfodol fel y presennol: greddf dyn i syrthio mewn cariad a greddf dyn i ofni. Serch a Thrais. Oherwydd y gofod amser, gwêl Dr Llywarch beryglon amlwg yn y berthynas rhwng Mair ac Ifan ac mae’n gyrru Ifan yn ôl i’r presennol – eto’n groes graen. Nid yw Ifan yn oedi’n hir yn ôl yn y presennol, dim ond digon i brofi ei fod wedi ei wedd-newid.
Mae’r bwlch rhyngddo ef a Thegid yn llai, fel pe byddai’r profiad o gwympo mewn cariad wedi agor ei lygaid i bosibili-adau delfryd a breuddwyd. Mae’n ymbil ar i Dr Heinkel ganiatau iddo ddychwelyd i’r dyfodol ac at Mair.
Er gwaethaf esbonio Dr Heinkel ei bod hi’n anhebygol y bydd yn cyrraedd yr union le, mae Ifan yn mynnu mynd.Dadrithiad llwyr yw’r ail ddyfodol hwn. Does dim arlliw o sglein y dy-fodol cyntaf arno.
Mae grym trais ac ofn wedi meddiannu pawb. Does dim Cymraeg, ac eithrio ar dafod un ysgol-haig hen, ac yn ôl y sôn ar wefus un hen, hen wraig.
Mae Ifan yn cael ei feddiannu gan benderfyniad o ddod o hyd i’r hen wraig hon, yn y gobaith sicr mai Mair yw hi.
Ar ôl taith ddigalon drwy Gymru anial, mae’n cyrraedd yr hen wraig mewn pryd i’w chlywed hi’n yngan y gair Cymraeg olaf erioed, ac i ddeall