Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Gorffennaf 2016

Rhaid i safleoedd niwclear dalu eu ffordd, meddai pwyllgor

MAE angen i brosiectau ynni niwclear ddangos gwerth am arian, bod o fudd i’r ardal leol ynghyd â chreu swyddi lleol, meddai adroddiad newydd ar ddyfodol y diwydiant i’r Pwyllgor Materion Cymreig.

Un o brif ganfyddiadau’r adroddiad, yn dilyn ymchwiliad i brosiectau niwclear Wylfa B a Thrawsfynydd, yw y dylai’r Llywodraeth wneud mwy i ddangos gwerth am arian y prosiectau. Dywed y pwyllgor hefyd fod angen i’r datblygwyr sicrhau fod y cymunedau lleol yn elwa o’r prosiectau drwy greu swyddi lleol, trwy fanteisio ar sgiliau gweithwyr o Gymru sydd eisoes wedi’u cyflogi ar gyfer prosiectau fel Wylfa A ym Môn.

• Mae’r adroddiad hefyd yn nodi na ddylai Wylfa Newydd ar Ynys Môn gael ei adeiladu os bydd y costau trydan yn fwy na chostau prosiect Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf neu o ffynonellau adnewyddol.

• O ran y safle yn Nhrawsfynydd, mae’r adroddiad yn awgrymu y dylid ystyried cynllun mwy parhaus o ddadgomisiynu er mwyn “gwaredu ag effaith cau’r datblygiad ar yr ardal”.

• Mae’r Pwyllgor hefyd yn croesawu’r syniad o ddatblygu Adweithyddion Modwlar Bach ar safle Trawsfynydd, gan bwysleisio fod angen “ystyried y costau posib”.

Mae’r grŵp ymgyrchu, PAWB (Pobl Atal Wylfa B) yn erbyn mwy o brosiectau niwclear. Ers 2002, bu’n ymgyrchu’n gyson yn erbyn awydd llywodraethau Tony Blair, Gordon Brown a David Cameron i godi cenhedlaeth newydd o orsafoedd niwclear, ac maen nhw’n cymryd eu rhybuddion o bob cwr o’r byd.

“Mae trychineb Fukushima ym Mawrth 2011 yn parhau,” meddai PAWB. “Ar hyn o bryd mae 1106 o danciau yn dal dŵr ymbelydrol ar y safle ac mae dŵr ymbelydrol yn dal i lifo trwy’r ddaear yno pob dydd i mewn i’r Môr Tawel.

Cyfrannodd trychineb Fukushima at benderfyniad RWE ac Eon i dynnu allan o brosiect Wylfa B. Er i Hitachi brynu cwmni Horizon oddi wrth y consortiwm Almaenig yn Hydref 2012, nid yw’r penderfyniad buddsoddi yn sicr o bell ffordd.

”Mae Horizon wedi cydnabod y byddai tua 75% i 80% o’r gweithlu adeiladu yn y Wylfa yn dod o’r tu allan i’r ardal leol. Mae’r ardal leol yn estyn hyd at Swydd Caer a Glannau Merswy sydd o fewn y pellter teithio 90 munud yr ystyrir fel “lleol”.

Y patrwm gyda’r ddau brosiect niwclear yn Ewrop ar hyn o bryd yn Olkiluoto, y Ffindir a Flamenville yn Ffrainc yw gweithlu rhyngwladol gyda nifer fawr yn dod o wledydd Dwyrain Ewrop, sy’n awgrymu’n gryf llafur rhad.

“O ystyried hynny, mae’n amheus iawn faint o fudd economaidd fyddai i ogledd Cymru o godi Wylfa B,” meddai PAWB wrth y Pwyllgor Materion Cymreig.

“Yr hyn sy’n sicr yw y byddai’r fath brosiect enfawr â Wylfa B yn cael effaith niweidiol iawn ar holl isadeiledd Môn a Gwynedd.

Byddai straen mawr ychwanegol yn cael ei roi ar y gwasanaeth iechyd, yr heddlu, a gwasanaethau llywodraeth leol, yn arbennig felly gwasanaethau cymdeithasol ac addysg.

“O ran y canllawiau a osodwyd ar gyfer trafod ynni niwclear yng Nghymru, mae’n ddiffygiol iawn o safbwynt rhoi ystyriaeth i ddyfodol y Gymraeg yn ei chadarnle yng ngogledd orllewin Cymru,” meddai PAWB wedyn. “Mae oes adeiladu a rhedeg gorsaf niwclear bresennol yr Wylfa wedi cyd-daro â dirywiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yng nghymunedau gogledd a dwyrain Môn. Cafwyd mewnlifiad mawr o weithwyr adeiladu Wylfa i Fôn yn y chwedegau a’r saithdegau cynnar.

Arhosodd llawer ohonynt a gostwng canran y siaradwyr Cymraeg.

“Mae ardal Cemaes yn tanlinellu’r gostyngiad canrannol hwn yn ddramatig. Yn arolwg Estyn o ysgol gynradd Cemaes yn 2006, gwelwyd mai 4% yn unig o’r plant a ddeuai o aelwydydd Cymraeg eu hiaith. Mae’n gwbl amlwg bod y rhagamcanion niferoedd tai yn nogfen Adnau Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y bydd dau adweithydd niwclear newydd yn cael eu codi yn y Wylfa. Pam arall fyddai angen bron 8000 o dai newydd yn y ddwy sir?

“Gallai caniatáu’r fath niferoedd o dai ddod â chanran siaradwyr Cymraeg ym Môn i lawr i dan 50% o fewn degawd a pheri cwymp arwyddocaol i ganran siaradwyr Cymraeg Gwynedd. Dylech fel pwyllgor gydnabod effaith ieithyddol codi Wylfa B ac o bosibl adweithydd modiwlar bach yn Nhrawsfynydd ar y Gymraeg yng nghymunedau Gwynedd a Môn.

”Fel yn achos Hinkley Point hyd yn oed cyn sicrhau’r buddsoddiad angenrheidiol ar gyfer y gwaith adeiladu, mae gwaith dymchwel adeiladau yn yr ardal gan Horizon wedi gadael ôl amgylcheddol yn barod. Yn Awst 2015, cyflwynodd Horizon gais cynllunio i Gyfoeth Naturiol Cymru i dyllu mewn 33 lle ar y lan ac yn y bae ym Mhorth y Pistyll ger gorsaf bresennol y Wylfa ac heb fod yn bell o dir Horizon. Rhoddwyd caniatâd i’r tyllu ddiwedd Medi 2015, ond hyd yn hyn nid oes tyllu wedi digwydd.

Diben y gwaith yw asesu’r ddaeareg ar gyfer sefydlu glanfa ddiwydiannol ar draws ceg y bae i fewnforio deunydd adeiladu.

“Dyma enghraifft o ddinistr amgylcheddol gwarthus gan fod yr olygfa i’r gogledd a’r gorllewin o’r lan ym Mhorth y Pistyll yn drawiadol iawn,” meddai PAWB.

“Ychwanegwch at hynny arwynebedd y tir sy’n eiddo i Horizon, sef unarddeg gwaith yn fwy na safle’r orsaf bresennol, ac fe welir maint y dinistr amgylcheddol yn glir. Byddai talp o dir amaethyddol yn cael ei ddiwydiannu a’i orchuddio gan goncrit am gyfnod maith iawn.

“Mae’r darn arbennig hwn o dir ar arfordir gogledd Môn yn cael ei groesi gan Lwybr Arfordir Cymru, mewn Ardal o Harddwch Eithriadol ac yn cynnwys sawl Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Dyna fyddai’n cael ei ddinistrio er mwyn buddsoddi mewn technoleg hen ffasiwn, budr, peryglus ac eithafol o ddrud.”

Rhannu |