Mwy o Newyddion
Cymru'n lleoliad ffilmio i un o glasuron Waugh
MAE addasiad o gomedi glasurol ddychanol Evelyn Waugh, Decline and Fall, yn cael ei ffilmio yn ne Cymru.
Mae’r prif waith ffilmio wedi dechrau gyda chast o enwogion sy’n cynnwys Jack Whitehall, David Suchet, Eva Longoria a Douglas Hodge. Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi help ariannol i Tiger Aspect Drama a Cave Bear Productions, sef cynhyrchwyr y gyfres, ac fe ragwelir y byddan nhw’n gwario tua £1.8 miliwn yma yng Nghymru.
Mae dylanwad Cymreig cryf ar Decline and Fall gan fod y mwyafrif o’r stori wedi’i gosod mewn ysgol breifat ddychmygol yng nghefn gwlad Cymru.
Bydd y cynhyrchiad, sydd wedi cael ei addasu ar gyfer y teledu am y tro cyntaf gan James Wood, yn cael ei gyfarwyddo gan Guillem Morales, a bydd yn cael ei gynhyrchu gan Ben Cavey o Cave Bear Productions a Will Gould o Tiger Aspect.
Mae’r cynhyrchiad yn nodi 50 mlynedd ers marwolaeth Evelyn Waugh a bydd y gyfres ddrama oriau brig 3 pennod 60 munud yn cael ei darlledu yn ddiweddarach eleni.