Mwy o Newyddion
Rhaid cael gwared ar hunanfodlonrwydd
Heddiw, lansiodd y Gweinidog Llywodraeth Leol Carl Sargeant ymgyrch i gael gwared ar hunanfodlonrwydd, tangyflawni a biwrocratiaeth ddiangen wrth iddo fwrw ymlaen â’r agenda i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus.
Wrth annerch cynhadledd flynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn Abertawe, ehangodd y Gweinidog ar ei ddatganiad i'r Cynulliad yn gynharach yn yr wythnos gan ddweud ei fod yn disgwyl gweld dulliau llawer mwy strategol yn cael eu gweithredu i sicrhau bod awdurdodau’n cydweithio, gyda phenodiadau ar y cyd yn un o’r blaenoriaethau.
Dywedodd y Gweinidog nad yw strwythur 22 awdurdod lleol Cymru o ran cyflogi uwch-swyddogion yn gynaliadwy nac yn addas erbyn hyn. Roedd hefyd yn mynegi ei rwystredigaeth yn wyneb amharodrwydd awdurdodau i wneud penodiadau ar y cyd wrth benodi uwch-swyddogion fel prif weithredwyr. Galwodd ar lywodraeth leol i ddod â’r siarad i ben ac i ddechrau gweithredu’r dulliau newydd.
Meddai: “Mae gormod o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi penodi Prif Weithredwyr yn annibynnol dros y flwyddyn ddiwethaf heb edrych ar yr holl opsiynau yn gyntaf. Rydyn ni’n colli cyfleoedd i arbed arian, ac yn bwysicach na hynny i recriwtio’r bobl fwyaf galluog o Gymru a thu hwnt, a fyddai’n gallu ein helpu i weithredu agenda diwygio uchelgeisiol.
“Bydd penodi ar y cyd yn annog awdurdodau a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus i weithio gyda’i gilydd i gynnig gwasanaethau a allai gynnig y gorau i’r cyhoedd.
“Dw i am weld llawer mwy o gamau’n cael eu cymryd i’r cyfeiriad hwn. Os nad yw hynny’n digwydd, bydd yn rhaid i mi ystyried opsiynau sy’n defnyddio mwy o orfodaeth er mwyn cyflymu’r broses.”
Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd y byddai’n arwain ymgyrch i sicrhau bod polisïau Llywodraeth Cymru yn cynnal gallu awdurdodau lleol i gyflenwi gwasanaethau. Bydd yr ymgyrch yn cynnwys adolygiadau sylfaenol o’r systemau archwilio, rheoleiddio ac arolygu a hefyd adolygiad o Gyngor Partneriaeth Cymru, gyda’r nod o leihau biwrocratiaeth ac ychwanegu gwerth. Heriodd llywodraeth leol i haneru nifer y partneriaethau ar draws gwasanaethau cyhoeddus erbyn diwedd y flwyddyn.
“Er bod gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol, rhaid i ni osgoi diwylliant o gyfarfodydd a chynhyrchu strategaethau,” meddai. “O’m rhan i, byddaf yn adolygu’r gweithgarwch mewn partneriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei symbylu, er mwyn symleiddio a diwygio’r strwythurau.”
Fodd bynnag, dywedodd y Gweinidog na fyddai llywodraeth leol yn cael ei had-drefnu’n llwyr, gan ddweud y byddai hynny’n cymryd gormod o amser ac yn llyncu gormod o arian a hefyd yn amharu’n ddifrifol ar wasanaethau. Yn lle hynny, byddai’n mynd ati cyn gynted â phosibl i weithredu argymhellion Adolygiad Simpson o ran y modd y cyflenwir gwasanaethau lleol.
Meddai: “Dw i o’r farn y byddai’r math o gydweithio a awgrymir gan Simpson yn fwy effeithiol nag ad-drefnu. Gall arwain at wasanaethau gwell a mwy effeithlon, trwy osgoi dyblygu gwaith, a chael y gorau am yr arian sy’n cael ei wario.
“Dw i’n gwybod bod llawer o gydweithio’n digwydd eisoes rhwng awdurdodau lleol, ond mae’n amlwg ei bod yn bosibl iddynt wneud mwy. Rydyn ni am sicrhau bod pob sefydliad gwasanaeth cyhoeddus yn chwarae rhan lawn yn yr agenda diwygio. Heb os nac oni bai, y nod yw lledaenu arferion da a dulliau gweithredu arloesol mor gyflym â phosibl i bob rhan o Gymru.
“Felly, byddwn ni’n parhau i weithio ar y cyd â’n partneriaid - yn eu cefnogi, yn eu hannog, ac os oes rhaid, yn defnyddio ein pwerau statudol i sicrhau bod newidiadau’n digwydd, er mwyn i bobl Cymru weld gwelliannau gwirioneddol yn eu gwasanaethau cyhoeddus ac felly yn eu bywydau bob dydd.”