Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Gorffennaf 2016

Plaid yn ymateb i gyfarfod Cyngor Prydain-Iwerddon

DDYDD Gwener diwethaf (Gorffennaf 22), wrth ymateb i gyfarfod Cyngor Prydain-Iwerddon yng Nghymru, dywedodd Steffan Lewis AM Ysgrifennydd Cysgodol Plaid Cymru dros Faterion Allanol ei fod yn croesawu’r ffaith bod Cyngor Prydain-Iwerddon wedi cwrdd yng Nghymru i drafod goblygiadau canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ar y cenhedloedd gwahanol.

“Serch hyn,” meddai, “mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru’n cael trefn ar bethau yn nhermau lliniaru effaith gadael yr UE ar gymunedau Cymreig a sicrhau’r fargen orau posib i Gymru. Wrth i genhedloedd eraill yr ynysoedd hyn amlinellu cynlluniau clir a safbwyntiau negodi, mae’n gwbl annerbyniol fod Llywodraeth Lafur Cymru’n mynnu chwarae’r gêm ‘arhoswn i weld’.

“Mae dyfodol pobl yn y fantol ac rydym newydd weld apwyntiad tim Brexit yn San Steffan fydd yn siwr o symud y wlad yn ol, nid ymlaen. Mae’n rhaid i’r Prif Weinidog gael trefn ar bethau a chyhoeddi cynllun lliniaru cenedlaethol i Gymru ynghyd a safbwynt negodi unigryw Cymreig a dylai gyflwyno’r ddau i’r Cynulliad Cenedlaethol am sel bendith.

“Bydd Cymru’n cael ei gadael ar ol unwaith eto os fydd yr oedi’n parhau. Ni allwn fforddio rhoi dyfodol ein pobl yn nwylo May a’i hebogiaid ynysig yn Whitehall.”

Rhannu |