Mwy o Newyddion
Deiseb i erlyn Blair yn pasio'r garreg filltir gyntaf
MAE deiseb Seneddol drawsbleidiol dan arweiniad Adam Price AC yn galw am i’r cyn-Brif Weinidog Tony Blair gael ei ddal i gyfrif gan y Ty Cyffredin dros gamarwain pobl cyn rhyfel Irac wedi cyrraedd 10,000 o lofnodion heddiw.Mae’r garreg filltir hon yn mynnu fod yn rhaid i Lywodraeth y DG ryddhau datganiad swyddogol yn ymateb i destun y ddeiseb.
Noda’r ddeiseb: “The Chilcot Report has presented a range of evidence that demonstrates that Parliament and the country were misled by Tony Blair in the run up to the war in Iraq. Parliament should now agree a process by which it can hold the former Prime Minister to account.”
“Rwy’n falch fod y ddeiseb bwysig hon wedi pasio’r garreg filltir seneddol gyntaf sy’n golygu fod yn rhaid nawr i Lywodraeth y DG ryddhau ymateb swyddogol,” meddai Adam Price, AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
“Dros yr wythnosau nesaf, rwy’n gobeithio y bydd y ddeiseb yn denu hyd yn oed mwy o sylw gan gyrraedd y targed angenrheidiol o 100,000 fydd yn golygu y bydd y Ty Cyffredin yn cynnal dadl ar y testun.
“Rwyf wedi bod yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr o bob plaid yn Senedd San Steffan, pob un yn awyddus i wneud popeth posib i ddal Tony Blair i gyfrif dros gamarwain y Ty Cyffredin a’r cyhoeddus cyn yr ymyrraeth drychinebus yn Irac.
“Fel y dengys adroddiad cwbl ddamniol Chilcot, mae Blair yn euog o lith o fethiannau a chamgymeriadau. “Rhaid iddo wynebu dydd y farn os ydym am sicrhau cyfiawnder i’r rhai sydd wedi dioddef yn sgil ei weithredoedd.”