Mwy o Newyddion
Plaid yn bwriadu herio cynlluniau Llafur i breifateiddio canolfannau hamdden Caerdydd
MAE Cynghorwyr Plaid Cymru Cyngor Caerdydd wedi addo herio cynlluniau Llafur i breifateiddio canolfannau hamdden gan eu gorfodi i ailystyried.
Mae’r grwp Llafur sy’n rhedeg Cyngor Caerdydd wedi cynnig trosglwyddo rheolaeth dros y gwasanaethau hamdden cyhoeddus i fentrau yn Llundain. Mae undeb Unite yn adrodd fod hyd at ddau-draean o weithwyr Greenwich Leisure Limited ar gytundebau dim-oriau neu anffurfiol.
Ni wnaeth adolygiad annibynnol gan Max Associates argymell preifateiddio, ond yn hytrach nododd ‘nad oedd dewis amlwg’ o ran rheolaeth y canolfannau hamdden. Ond mae grwp Llafur Cyngor Caerdydd wedi dewis preifateiddio canolfannau hamdden Caerdydd. Nid yw Canolfan Hamdden Channel View yn rhan o’r cytundeb ac felly mae amheua-eth yn parhau dros ei ddyfodol.
“Unwaith eto mae Llafur yn dan-gos na ellir ymddiried ynddynt gyda’n gwasanaethau cyhoed-dus,” meddai’r Cynghorydd Neil McEvoy AC.
“Dim ond llynedd fe wnaethant geisio preifateiddio ein glanhawyr stryd a gwaith cynnal parciau. Rhoesom stop ar y penderfyniad hwnnw’n llwyddiannus gan eu cadw’n fewnol ond gyda mwy o ffocws masnachol. Mae hyn yn gwarchod gweithwyr a gwasanaethau ond yn arbed arian i’r trethdalwr.
“Bydd preswylwyr yn iawn i feddwl pam y byddai’n well gan y Blaid Lafur i’n gwasanaethau cyhoeddus gael eu cynnal gan fenter bell wedi’w lleoli yn Llundain, yn enwedig un sy’n cadw dau-draean o’i gweithwyr ar gytundebau dim-oriau neu anffurfiol. Dylid rheoli canolfannau hamdden Caerdydd o Gaerdydd, i Gaerdydd. Byddwn yn herio’r cynlluniau hyn bob cam o’r ffordd.”
“Bydd Plaid Cymru’n gwrthdroi’r penderfyniad hwn os cawn ein hethol yn etholiadau’r Cyngor fis Mai.”