Mwy o Newyddion
Cyfle i'r cyhoedd ddweud eu dweud am ddyfodol teledu Cymraeg ar S4C
BETH yw’r rhaglenni poblogaidd ar S4C? Beth ddylai S4C fod yn ei ddarparu yn y dyfodol? Beth mae sianel deledu Gymraeg yn ei olygu i wyl-wyr ac i’r bobl yn eu cymunedau?
Mae cyfle i’r cyhoedd roi ei barn am S4C a chyfrannu at y drafodaeth am ei dyfodol yn yr holiadur ar-lein: ‘Dweud eich Dweud’.Mae S4C yn awyddus fod llais y bobl yn cael ei glywed yn rhan o’r paratoadau ar gyfer cyfrannu at Adolygiad Annibynnol Llywodraeth y DU o S4C yn 2017. Mi fydd yn edrych ar waith a rôl S4C – y math o wasanaeth sy’n debyg o fod ei angen yn y dyfodol, ei chylch-gorchwyl, atebolrwydd a’i hariannu.Bwriad holiadur Dweud eich Dweud yw holi barn y cyhoedd am y materion hyn, yn enwedig yr hyn y bydden nhw’n hoffi gweld S4C yn ei wneud yn y dyfodol.
Mae’r holiadur ar gael i bawb ei llenwi nawr ar wefan s4c.cymru ac mi fydd swyddogion y sianel hefyd yn holi barn pobl ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni yr wythnos nesaf.
“Rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod llais y cyhoedd yn cael ei glywed wrth i ni baratoi ar gyfer Adolygiad Annibynnol S4C yn 2017 – pa fath o wasanaeth mae pobl ei-siau ei weld a pha wasanaeth aml gyfryngol fydd ei angen ar siarad-wyr Cymraeg yn y dyfodol,” meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C.
“Ein gobaith yw y bydd yr Adolygiad yn ystyried hyn yn ofalus ynghyd â sut y gall S4C ddarparu ac ariannu gwasanaeth sy’n cwrdd â’r gofynion hyn ar sail ddiogel yn ystod y ddeng mlynedd nesaf.
”Mi fydd y sylwadau yn yr holiadur yn gymorth i’r sianel baratoi ar gyfer cyfrannu at yr Adolygiad yn 2017.
Mae’r holiadur ar gael i bawb nawr ar s4c.cymru.