Mwy o Newyddion

RSS Icon

'Siomedig, ond dealladwy' - penderfyniad i beidio gwahodd Gemau'r Gymanwlad

ER yn siomedig gyda’r penderfyniad, mae Gemau’r Gymanwlad Cymru wedi croesawu ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i flaenoriaethu adolygiad o ddarpariaeth cyfleusterau chwaraeon yng Nghymru ac i ystyried cyfleoedd bidio yn y dyfodol.

Ers 2012, mae Gemau’r Gymanwlad Cymru wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid - gan gynnwys Llywodraeth Cymru - i gynnal astudiaeth dichonoldeb ar gyfer bidio am, a chynnal Gemau’r Gymanwlad yng Nghymru. Roedd canlyniad yr astudiaeth hon yn gadarnhaol ac eleni gwnaethpwyd gwaith pellach ar achos busnes manwl yn cynnwys sgôp y Gemau petaent yn cael eu cynnal yng Nghymru.

“Yn naturiol rydym yn siomedig o glywed am benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chefnogi cais i Gymru gynnal Gemau’r Gymanwlad 2026,” meddai Helen Phillips, cadeirydd Bwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru. “Mae Cymru yn genedl sy’n falch o garu chwaraeon ac rwy’n siŵr y byddai wedi cefnogi gwneud cais ond oherwydd ansicrwydd econo-maidd rydym yn deall efallai nad nawr yw’r adeg iawn. “Fe wnaethon ni adolygu nifer o opsiynau gan gynnwys cynnal Gemau drwy Gymru Gyfan, yn y De a Gogledd Ddwyrain Cymru, a Gemau yn y De yn unig, gan gadw mewn cof bob amser beth fyddai’n denu pleidleisiau gan Gymdeithasau Gemau’r Gymanwlad eraill a beth fyddai’n denu athletwyr gorau’r Gymanwlad.

“Mae’r holl waith caled a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf wedi dangos y gallai Cymru ddatblygu cais buddugol a chynnal Gemau’r Gymanwlad ffantastig. Byddai hyn yn dod â manteision i’r genedl gyfan yn enwedig o ran iechyd a lles, gyda’r rhaglen ‘Cymru Egnïol’ a fyddai’n rhan o’r daith tuag at y Gemau.

“Rydym yn amlwg yn siomedig o glywed na fydd Cymru’n cynnig ei hun i gynnal Gemau’r Gymanwlad 2026 pan fydd y broses bidio’n dechrau yn 2019. “Mae Gemau’r Gymanwlad Cymru, mewn cydweithrediad â’i bartneriaid yn y Llywodraeth, wedi gweithio’n galed i osod sylfeini ar gyfer cyflwyno cais am Gemau deinamig, arloesol a chynhwysol a byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda nhw i gefnogi eu hymdrechion i ddod â Gemau’r Gymanwlad yn ôl i Gymru yn y dyfodol.

“Rydym nawr yn edrych ymlaen yn frwd at weithio gyda dinasoedd a phartneriaid eraill y Gymanwlad dros y tair blynedd nesaf fel rhan o’r cyfnod yn arwain at broses bidio 2026.”

Rhannu |