Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Gorffennaf 2016

Cadair Dic yn mynd o Geredigion i'r Gaiman

FE fydd rhaglen deledu yn dweud hanes difyr Cadair Eisteddfodol fydd yn mynd â ni ar daith o dde Ceredigion i gy-fandir De America.

Fe enillodd y diwed-dar fardd a ffermwr Dic Jones gystadleuaeth Cadair Eistedd-fod Ganmlwyddiant Patagonia ym 1965, a hynny gyda cherdd ysgytwol. Yn y rhaglen Cadair Dic Nôl i’r Gaiman nos Lun nesaf (Awst 1) cawn glywed pam yr oedd y ffarmwr o fferm yr Hendre, Blaenannerch mor benderfynol bod pobl y Wladfa ym Mhatagonia, Yr Ariannin yn cael y Gadair yn ôl a chawn ddilyn taith ei deulu gyda’r Gadair i ardal y Gaiman.

Yng nghwmni ei weddw Jean Jones, ei fab, y cyflwynydd a’r cerddor Brychan Llŷr a’i ferch, yr actor a cherddor Delyth Wyn, cawn glywed hanes sut y cafodd y Gadair ei chludo ar long yr ‘Amazon’ o Rio de Janeiro, Brasil i borthladd Lerpwl, ar ei thaith i Gymru. Ond calon y rhaglen yw dilyn hynt y Gadair wrth iddi ddychwelyd i Batagonia a chael lle anrhydeddus yn Amgueddfa’r Gaiman.

“Roedd Dic bob amser wedi dweud ei fod e eisiau gweld y Gadair yn mynd yn ôl i’r Wladfa ac roedd wedi addo hynny wrth un o Gymry Patagonia, Luned Gonzalez,” meddai Jean Jones. “Roedd pawb yn edrych yn syn arno pan ddywedodd e yn y lle cyntaf, ond rwy’n deall yn iawn nawr ar ôl bod yno achos bod y bobl yno’n gwerthfawrogi’r holl greiriau sydd ganddyn nhw.”

Rhannu |