Mwy o Newyddion
Castell Dinbych yn anrhydeddus hosbis
MAE castell Cymreig eiconig wedi dod yn lleoliad ar gyfer môr o flodau metel bywiog fel rhan o arddangosfa gelf gyhoeddus sy’n dathlu 21 mlynedd o ofal hosbis.
Syniad rhai o’r bobl sy’n codi arian ar gyfer Hosbis St Cyndeyrn yn Llanelwy, Sir Ddinbych yw apêl trawiadol Flower Power 2016, sy’n atgoffa rhywun o osodiad celf ysblennydd pabis coch Tŵr Llundain yn 2014, oedd yn nodi 100 mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae’r hosbis wyth gwely i gleifion mewnol, sy’n aelod o Fforwm Gofal Cymru, yn dathlu 21 mlynedd o ddarparu gofal lliniarol arbenigol ar gyfer y rhai sydd â salwch angheuol a salwch sy’n peryglu bywyd ac roedd codwyr ar-ian yn awyddus i ddathlu’r garreg filltir mewn ffordd gadarnhaol a chalonogol – ac ar yr un pryd cynhyrchu arian ar gyfer gofal yn y dyfodol.
Mae’r prosiect celf, sy’n cael ei lwyfannu yng Nghastell Rhuddlan yn Rhuddlan, Sir Ddinbych, wedi derbyn nawdd gan gwmnïau lleol Wynne Construction a Thorncliffe Building Suplies sydd wedi galluogi’r ymgyrch codi arian i dalu am gost y blodau metel lliwgar.
Mae pob blodyn yn cael ei werthu’n unigol i unigolion a theuluoedd er cof am eu hanwyliaid yn ogystal â chefnog-wyr yr hosbis. Diolch i’r nawdd gan fyd busnes, bydd 100% o’r arian a godir yn cael ei fuddsoddi yn ôl i ofal hosbis.
“Mae’n olygfa wirioneddol wych ac yn gwireddu ein holl obeithion,” meddai’r Rheolwr Codi Arian, Laura Parry.“
Roeddem am nodi ein 21ain pen-blwydd mewn ffordd ysbrydoledig a chadarnhaol ac mae’r prosiect hwn wedi gweddu’n berffaith â hynny. Mae hefyd wedi cynnig ffordd deimladwy i lawer o deuluoedd sy’n galaru i gofio am eu hanwyliaid a hefyd helpu i sicrhau gofal cleifion yn y dyfodol.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i’n noddwyr am eu cefnogaeth diwyro a fydd yn sicrhau bod yr holl arian a godir drwy’r prosiect hwn yn mynd yn uniongyrchol i’r hosbis. Fel sefydliad, mae dros 80% o’n hincwm yn cael ei gynhyrchu drwy roddion cyhoeddus a gweithgareddau codi arian. Mae pob arwydd o ewyllys da yn ein helpu i barhau i ddarparu gofal o an-sawdd uchel i’r rhai sydd ei angen.
”Mae’r arddangosfa yn cynnwys anemonïau coch, blodau haul melyn a blodau n’ad fi’n angof glas ac mae wedi cael ei greu ar gae yn union o flaen y castell gan ddarparu syrpreis ychwanegol i ymwelwyr i’r castell yn ystod yr haf.
Bydd y gosodiad celf ar y safle tan Fedi 1 a bydd hefyd yn ffurfio rhan o ymgais Rhuddlan i Cymru yn ei Blodau.