Mwy o Newyddion
Gwaith yn dechrau ar ysgol newydd sydd werth £5 miliwn
Heddiw, gwnaeth y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews ddechrau’n swyddogol y gwaith ar adeilad ysgol newydd a fydd yn darparu amgylchedd dysgu ar gyfer yr 21ain ganrif i blant Ceredigion.
Y seremoni i dorri’r dywarchen gyntaf oedd y cam nesaf yn y broses o ad-drefnu’r pedair ysgol yn yr ardal o amgylch Brynhoffnant a dechrau eu huno ag Ysgol Brynhoffnant, syniad a grybwyllwyd yn wreiddiol gan rieni lleol.
Gyda chymorth arian cyfalaf gwerth £2.5miliwn gan Lywodraeth Cymru, bydd gan yr ysgol newydd y cyfleusterau i fodloni safonau’r 21ain ganrif. Maent yn cynnwys cyfleusterau addysgu arbenigol ar gyfer celf, technoleg a thechnoleg bwyd ac Uned Anghenion Addysgol Arbennig.
Bydd yr offer TG diweddaraf hefyd ar gael ar draws yr ysgol, a bydd system ddiwifr a byrddau gwyn rhyngweithiol ym mhob ystafell ddosbarth.
Yn ogystal, bydd gan yr ysgol yr holl gyfleusterau ar gyfer darparu’r cyfnod sylfaen, gan greu amgylchedd sy’n ysgogi’r plant i ddysgu a’u helpu i wneud hynny drwy archwilio, ymchwilio a datblygu sgiliau dysgu annibynnol ar gyfer y dyfodol.
Yn ogystal bydd yr adeilad ei hun yn cael ei ddefnyddio fel adnodd ar gyfer addysgu oherwydd bydd y disgyblion yn gallu monitro faint o ynni y mae nodweddion ecogyfeillgar yr ysgol yn eu defnyddio, nodweddion megis casglu dŵr glaw a gwresogi o’r ddaear.
Dywedodd Leighton Andrews:
“Mae creu ysgolion sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif yn un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru. Mae’n hanfodol ein bod yn darparu’r ysgolion gorau posibl ar gyfer plant Cymru, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
“Dyna paham ein bod wedi cyfrannu £2.5 miliwn er mwyn sicrhau bod plant Ceredigion yn derbyn eu haddysg yn yr amgylchedd gorau posibl.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld yr adeilad hwn wedi’i gwblhau ac rwy’n siŵr bod plant a rhieni’r gymuned hon hefyd yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r cyfleusterau modern a ddarperir ar eu cyfer.”
Bydd Ysgol Brynhoffnant yn agor ei drysau i ddisgyblion ym mis Medi 2012.