Mwy o Newyddion
Cwmni tafarn yn codi £57,321 i gronfa Dementia UK
MAE’r cwmni sydd berchen tafarn Y Castell ym Mangor wedi cyflwyno siec am £57,321 i elusen Dementia UK nos Iau ddiwethaf (Gorffennaf 14), ac mae hynny gyda chymorth yr yfwyr ym Mangor a gododd £1,131 at yr achos. Mae cyfanswm o 124 o dafarnau cwmni Stonegate yng ngogledd Cymru wedi bod wrthi’n brysur yn codi arian - gyda’r Castell ym Mangor yn dod i frig y rhestr o sefydliadau a lwyddodd i godi fwyaf.
Fe fu’r locals yn cymryd rhan yn Ras Rafftiau Afon Menai eleni, gan ddod yn gyntaf. Roedd cyfeillion a chydnabod wedi noddi aelodau’r tîm a gyflwynodd y siec o dros fil o bunnau i gynrychiolwyr Dementia UK mewn noson yn Pub Zoo, Manceinion yr wythnos ddiwethaf.
“Ein braint ni ydi derbyn y siec hon gan gwmni Stonegate,” meddai Jack Calvert o Dementia UK. “Rydyn ni’n falch iawn bod y cwmni wedi dewis ein helusen ni, ac rydyn ni’n gwybod y bydd yr arian yma’n gwneud gwahaniaeth go iawn i deuluoedd a dioddefwyr dementia. Allwn ni ddim diolch digon am y rhodd.”
Dementia UK ydi’r elusen sydd yn ymroi i sicrhau gofal a chefnogaeth arbenigol i deuluoedd y rheiny sy’n dioddef o dementia. Roedd gweithwyr Stonegate wedi dynodi’r elusen mewn pleidlais unfrydol nôl ym mis Ionawr, gan fod nifer ohonyn nhw unai â phrofiad uniongyrchol o’r cyflwr, neu’n adnabod rhywun sydd yn, neu wedi, dioddef.