Mwy o Newyddion
Parciau Cymru'n ennill y nifer mwyaf erioed o wobrau
BYDD mwy o barciau a mannau gwyrdd nag erioed yn arddangos Gwobr y Faner Werdd eleniDdydd Iau yr wythnos hon, (Gorffennaf 21) fe gyhoeddodd Cadwch Gymru’n Daclus enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – marc ansawdd rhyngwladol parc neu fan gwyrdd.
Cafwyd cynnydd sylweddol yn nifer y safleoedd sydd wedi ennill y wobr yng Nghymru, gyda 161 o barciau a mannau gwyrdd yn bodloni’r safon uchel angenrheidiol i dderbyn Gwobr y Faner Werdd neu Wobr Gymunedol y Faner Werdd. Eleni, mae cynllun Gwobr y Faner Werdd, a gyflenwir yng Nghymru gan Gadwch Gymru’n Daclus gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, yn 20 mlwydd oed. Caiff ei beirniadu gan arbenigwyr mannau gwyrdd, sydd yn gwirfoddoli eu hamser i ymweld â safleoedd sy’n gwneud cais a’u hasesu yn erbyn wyth maen prawf llym, yn cynnwys safonau garddwriaethol, glendid, cynaliadwyedd a chyfranogiad cymunedol.
Ddoe, roedd yr enillwyr yn ymuno â thros 1,600 o safleoedd Gwobr y Faner Werdd ar draws y DU, Gweriniaeth Iwerddon, yr Almaen, yr Iseldiroedd, yr Emiraethau Arab Unedig, Awstralia a Seland Newydd.
“Rwy’n falch o weld cymaint o fannau gwyrdd yn cyrraedd safon-au Gwobr y Faner Werdd,” meddai Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.
“Mae’r Wobr yn helpu i sicrhau bod gan gymunedau fan gwyrdd o ansawdd uchel er mwyn profi a mwynhau’r awyr agored, sydd yn hanfodol i les ac ansawdd by-wyd ein cymunedau yng Nghymru. Rwy’n llongyfarch yr holl barciau a’r mannau cymunedol sy’n dar-paru cyfleusterau a digwyddiadau rhagorol drwy’r flwyddyn i bawb yng Nghymru.
”Ymysg y rheiny sy’n derbyn y wobr eleni mae Parc Cyfartha ym Merthyr Tudful, Coed Penllergaer yn Abertawe a Gardd Isel Traeth y Newry ar Ynys Môn.
Mae Caerdydd yn arwain y ffordd gyda 17 o safleoedd Gwobr y Faner Werdd; yn cynnwys, am y tro cyntaf, Ynys Echni ac Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Mae nifer safleoedd Gwobr y Faner Werdd wedi mwy na dyblu ers y llynedd.
Mae enillwyr y wobr hon yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gynnal eu cyfleusterau rhagorol, ac yn cynnwys rhandir, coetir, gwarchodfeydd natur lleol a gerddi cymunedol.