Mwy o Newyddion
Pererindod i weld cofeb y Dywysoges Gwenllian
MAE aelodau o Gymdeithas Ddinesig Caernarfon wedi bod ar daith i ddinas Lincoln ac i ymweld â chofeb Y Dywysoges Gwenllian, 1282-1337 yn Sempringham.
Wedi gwylio Cymru’n ennill yn erbyn Slofacia ddydd Sadwrn roedd yn amser i sadio ar y Sul a theithio i leoliad Lleiandy Gilbertine Sempringham sydd tuag awr o Lincoln.
Yma cawsant eu croesawu gan Nan Davenport a Rob Bevan Evans sef aelodau o Gymdeithas y Dywysoges Gwenllian.
Cawsant ychydig o hanes Gwenllian gan Nan a hanes yr Abatai Gilbertine gan Rob.Gilbert o Sempringham oedd yn gyfrifol am sefydlu’r Abatai Seisnig cyntaf yn Lloegr ac maent i gyd yn nwyrain Lloegr.
Mae Robat Humphreys, Cadeirydd y Gymdeithas Ddinesig yng Nghaernarfon wedi ymchwilio i hanes Gwenllian ac mewn cyflwyniad ym mis Ebrill soniodd na al-lai Gwenllian siarad Cymraeg na ychwaith ysgrifennu ei enw – Wentilan a fyddai’n llofnodi ar waelod ei llythyrau at y brenin.
Ond roedd Nan yn gwrthddweud hyn.Hefyd yn Lleiandy Sixhills tua dwy awr o Sempringham (yn nhermau heddiw) carcharwyd Gwladys, merch Dafydd ap Gruffydd, brawd Llywelyn.
Byddai hi yn ferch oddeutu wyth neu naw oed ac yn gallu siarad Cymraeg wrth gwrs.
Felly mae’n bosib bod yr hen Gwenllian fach yn gallu tair iaith, Cymraeg, Lladin a Saesneg.
Fe aethpwyd â Gwenllian o Aber Gwyn Gregyn pan laddwyd ei thad a’n Llyw Olaf Llywelyn yn 1282. Roedd Llywelyn yr olaf o Dywysogion Gwynedd ac yn Arglwydd Eryri. Trefnwyd gan y brenin bod Llywelyn yn cael ei lofruddio yng Nghilmeri ger Llanfair-ym-Muallt ger lle mae cofeb iddo. Roedd ei mam Elinor de Montfort yn gyfnither i Edward I o Loegr felly fyw iddo ei lladd na’i hanafu.
Ei charcharu mewn lleiandy oedd y dewis a lle gwell na Sempringham sydd cyn belled o Wynedd a allwch fynd.
Mae llyfr Gweneth Lilly Gilbert a Gwenllian, Hanes bywyd lleian yn Sempringham, Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian, yn drysor o hanes y Lleiandy a Gilbert ei hun. Mae’n dyfynnu o lythyr: “It is so far removed from Wales where she was born…. It seems so sad that she grew up and lived her life in that flat, desolate place.”
Dan orchymyn Brenin Edward I carcharwyd Gwenllian yn y lleiandy.
Bu Gwenllian fyw yno am 54 mlynedd ac roedd hyn i sicrhau diddymu llinach Tywysogion Cymru am byth.