Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Gorffennaf 2016

Ar agor: Gwobrwyo gwirfoddolwyr

MAE’R Gwobrau, sy’n cael eu cynnal bpb blwyddyn, yn ffordd o alluogi’r Parciau i ddiolch i’r gwirfoddolwyr am y miloedd o oriau o wasanaeth, ymdrech ac ymroddiad y maent yn eu cyfrannu bob blwyddyn gan wneud tirweddau’r Parciau Cenedlaethol yn dirweddau gwerthfawr.Derbynnir enwebiadau tan hanner nos ar ddydd Gwener 23 Medi, 2016 ar gyfer pedwar categori - Unigol, Pobl Ifanc (25 oed ac iau), Grŵp a Phrosiect. Bydd yr enillwyr yn y categorïau Grŵp a Phrosiect yn derbyn bwrsariaeth o £ 1,000 tuag at eu hymdrechion gwirfoddoli yn y dyfodol. Bydd enillwyr y categori Unigol a Phobl Ifanc yn derbyn offer awyr agored.Wrth gyhoeddi Gwobrau 2016, dywedodd Cyfarwyddwr Parciau Cenedlaethol y DU, Kathryn Cook“Mae Gwobrau’r Gwirfoddolwr bob amser yn un o uchafbwyntiau’n calendr. Rydym wrth ein bodd gyda’r gwobrau am eu bod yn rhoi cyfle i arddangos ein llu o wirfoddolwyr anhygoel a’r holl waith aruthrol maent yn ei roi i mewn i’n 15 o Barciau Cenedlaethol. Helpwch ni i ddod o hyd i’n harwyr Parc Cenedlaethol a rhoi iddyn nhw’r gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu.”Ychwanegodd Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,“Mae’r gwobrau’n cydnabod gwaith caled gwirfoddolwyr yr ydym ni’n credu eu bod wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau arferol o wasanaeth gwirfoddol. Yn Eryri, mae gwirfoddolwyr prosiectau o gopa’r Wyddfa, i Blas Tan y Bwlch, i Drawsfynydd a Llyn Penmaen yn gwneud cyfraniadau gwerthfawr i gynnal rhinweddau arbennig yr ardal gan weithiau oddef amodau anodd a thywydd heriol ar yr un pryd. “Does dim rhaid i’r enwebeion fod yn wirfoddolwyr i Barc Cenedlaethol. Y cyfan sydd ei angen yw bod y gwasanaeth gwirfoddol neu’r prosiect yn cael ei gynnal o fewn ffiniau un o’r 15 o Barciau Cenedlaethol yn y DU. Er mwyn enwebu unigolyn, person ifanc, grŵp, neu brosiect haeddiannol, ewch

Rhannu |