Mwy o Newyddion
Myfyriwr Prifysgol Bangor yn un o'r rhai ieuengaf erioed i ennill gwregys du ail radd Jiu Jitsu Japaneaidd
MYFYRIWR o Brifysgol Bangor yw’r bedwaredd ferch yn y byd, ac un o’r rhai ieuengaf erioed i gael gwregys du ail radd mewn Jiu Jitsu JapaneaiddMae Gabriella Rossetti, 24 oed, sy’n wreiddiol o Fryste, yn astudio PhD mewn Gwyddor Chwaraeon. Gwahoddwyd yn ddiweddar i gystadlu mewn graddio ‘dan’ cenedlaethol y Sefydliad Jiu Jitsu ym Mryste lle hi oedd y ferch gyntaf mewn 14 mlynedd i gyrraedd lefel gwregys du ail radd a’r unig ferch yn y byd sy’n ei ddal ar hyn o bryd.
Mae Jiu Jitsu Japaneaidd yn grefft ymladd hunanamddiffyn. Mae’r graddio yn golygu dangos gallu technegol a chorfforol mewn hunanamddiffyn. Roedd Gabriella yn mynd o flaen panel i brofi ei gallu i hunanamddiffyn a’i gallu Jiu Jitsu er mwyn cael ei graddio. Roedd yn wynebu rhith sefyllfaoedd a oedd yn cynnwys amddiffyn ei hun oddi wrth ddau ymosodwr ar yr un pryd, pob un wedi’u harfogi gyda chyllyll, cadwyni a ffyn pren; cylch o ymosodwyr gydag amrywiaeth o arfau neu ddyrnau; ymosodwyr yn pwyso dros 100kg yn defnyddio ymosodiadau bocsio medrus; pen-linio gyda’i llygaid ynghau nes bod dau ddyn yn ei dal i’r llawr a’i thagu neu ei dyrnu. Gofynnwyd iddi hefyd ddangos manylder technegol gyda rhai dulliau penodol wedi eu dewis o’r maes llafur Jitsu.
Gabriella yw’r Pencampwr Cenedlaethol (merched) presennol a hi oedd sylfaenydd Clwb Jitsu Prifysgol Ban-gor yn 2011 lle mae’n hyfforddi (Sensei). Enillodd y clwb wobr am fod y clwb newydd gorau gan y Corff Llywodraethu Cenedlaethol y flwyddyn honno, a’r clwb gorau yn gyffredinol yn 2013.
Roedd Gabriella yn hynod falch o’i llwyddiant Jitsu ac eglurodd pam y dewisodd astudio ym Mhrifysgol Bangor: “Roedd y cwrs Gweithgareddau Awyr Agored Gwyddor Chwaraeon yn gyfle eithriadol nad oedd ar gael mewn unrhyw brifysgol yn y DU. Mae’n gwrs gwyddonol dan arweiniad arbenigwyr byd-enwog ym maes ymchwil eithafion, ac roedd yn gyfle hefyd i fwynhau’r ardal anhygoel o gwmpas Bangor!
“Roeddwn wrth fy modd yn gwneud fy ngradd israddedig yma, a chefais y cyfle i wneud ymchwil gan weithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn i wneud fy ngradd Meistr. Rwyf yn awr yn cwblhau PhD mewn Ffisioleg Uchder Mawr. Rwyf eisoes wedi bod ar alldaith ymchwil i’r Mynyddoedd Himalaia. Mae Bangor yn parhau i gynnig amrywiaeth o gyfleoedd unigryw ac anhygoel.
“Byddaf yn parhau i ddysgu Jitsu ym Mhrifysgol Bangor, ac mae gennyf nifer o ddigwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol y byddaf yn dysgu a hyfforddi ar eu cyfer yn y misoedd sydd i ddod, yn cynnwys pencampwriaethau cenedlaethol. “Hoffwn un diwrnod wneud fy nhrydydd ‘dan’, ond mae o leiaf 5 mlynedd cyn y byddaf yn gymwys i hynny.”