Mwy o Newyddion
Croesawu'r symbol heddwch byd eang
Y penwythnos hwn, bydd pentref Llanbedr ger Harlech, Gwynedd yn croesawu’r ‘Groes Hoelion’ nodedig i’r ardal o Eglwys Gadeiriol Coventry mewn seremoni arbennig. Cymuned Llanbedr fydd yr ardal gyntaf yng Nghymru i dderbyn y ‘Groes Hoelion’, symbol fyd eang o heddwch a chymodi, mewn gwasanaeth bore Sul, 19 Mehefin, am 11 o’r gloch y bore yn Eglwys Sant Pedr, Llanbedr.
Bydd y Canon David Porter, Llywydd Undeb Y Groes Hoelion Coventry yn cyflwyno’r groes i’r gymuned ar ran y Gwir Barchedig Ddr Christopher Cocksworth, Arglwydd Esgob Coventry.
Mae Rheithor Llanbedr, Stephanie Beacon wedi derbyn neges Gymraeg gan Archesgob Caergaint, y Gwir Barchedig Dr Rowan Williams yn dymuno pob bendith a heddwch i’r Eglwys a’r gymuned yn y seremoni ddydd Sul. Dyfynnodd yr Archesgob bennill gan y bardd Waldo Williams i gyfleu ei neges:
Cenedl dda a chenedl ddrwg –
Dysgent hwy mai rhith yw hyn,
Ond goleuni Crist a ddwg
Ryddid i bob dyn a’i myn.
Gwyn eu byd, daw dydd a’u clyw,
Tangnefeddwyr, plant i Dduw.
Eglurodd Cynghorydd Plaid Cymru, Evie Morgan Jones, cynrychiolydd Ward Llanbedr: “Mae gan Lanbedr gysylltiadau milwrol erioed ac mae rhai o drigolion yr ardal wedi gwasanaethu yn yr Ail Ryfel Byd. Mae un person arbennig, Is-gyrnol John Wynne, 90 oed, o Glyntaro, Llanbedr, wedi gwasanaethu yn y Llu Awyr Brenhinol.
“Dair blynedd yn ôl, gefeilliodd Llanbedr gyda thref o’r enw Huchenfeld yn Yr Almaen. Mae trigolion Huchenfeld wedi byw gydag atgofion erchyll rhyfel dros y blynyddoedd. Yn eu tref nhw, y tu allan i’r Eglwys y saethwyd pum milwr Prydeinig o’r Llu Awyr wedi iddynt gael eu dal gan filwyr Hitler yn ystod yr Ail Ryfel Byd. John Wynne oedd yn hedfan yr awyren oedd ar dân, pan orfodwyd y milwyr Prydeinig i adael yr awyren a neidio i ddiogelwch y tir yn Buhl, Yr Almaen, nepell o Huchenfeld. Er gwaetha’r sefyllfa ddifrifol a’i wynebodd, llwyddodd John Wynne i lanio’r awyren yn ôl yn ddiogel ar dir Prydeinig,” eglura’r Cynghorydd Jones.
Heb yn wybod i’r milwyr Prydeinig, roedd Pforzeim, tref gyfagos i Buhl lle roeddynt wedi glanio wedi ei tharo gan y Llu Awyr Prydeinig ychydig ddyddiau ynghynt. Mewn cyfnod byr o amser lladdwyd 18,000 o bobl y dref - chwarter y boblogaeth. Roedd gweld pum milwr o’r Awyrlu Prydeinig fel rhwbio halen i’r briw.
Dywedodd y Cynghorydd Evie Morgan Jones sy’n cynrychioli Llanbedr ar Gyngor Gwynedd: “Mae ein cysylltiadau gyda Huchenfeld wedi datblygu dros y blynyddoedd, gyda phlant lleol Llanbedr yn cymryd rhan mewn teithiau cyfnewid gyda phlant Huchenfeld. Yn ystod mis Hydref eleni, bydd Côr Meibion Ardudwy yn ymweld â Huchenfeld am yr ail dro i rannu ein diwylliant a’n traddodiad Cymraeg a chryfhau ein cysylltiad. Mae Eglwysi’r ddwy gymuned wedi codi cofeb i gofio am y pum milwr a fu farw yn y rhyfel. Rydym yn parhau yn ein gwaith o gymodi, o ennyn heddwch ac i gydweithio gan edrych ymlaen i ddyfodol heddychlon.
“Rydym wrth ein boddau bod y ‘Groes Hoelion’ yn cael ei chyflwyno i gymuned Llanbedr. Mae’r groes yn deillio o Eglwys Coventry yn 1940, wedi i’r ddinas gael ei dinistrio gan fomiau Almaeneg. Gosodwyd dau drawst oedd wedi llosgi i’r llawr ar ffurf croes yn yr allor a rhwymwyd tair hoelen ganoloesol i siâp croes, i greu’r ‘Groes Hoelion.’
“Mae hi’n anrhydedd fawr i ni dderbyn y groes symbolaidd hon i’n cymuned, ac mae llawer o’r gwaith trefnu i dderbyn y groes yma wedi ei wneud gan ein harwr lleol ni, John Wynne o Glynarto. Mae o’n ŵr uchel ei barch yn ein pentref. Ef hefyd ddechreuodd y cysylltiadau cyntaf rhwng y pentrefi, wrth gyflwyno ceffyl pren i ysgol feithrin Huchenfeld ym 1993 fel arwydd o faddeuant i bawb oedd ynghlwm â’r digwyddiadau hanesyddol. Enwyd y ceffyl yn ‘Hoffman’ (gobaith) ac fe’i cyflwynwyd ar ran mamau’r pum milwr o Sgwadron RAF 214 a lofruddiwyd.