Mwy o Newyddion
Dathlu bywyd par unigryw yn hanes Plaid Cymru
BYDD cyfle i bobl a ddaw i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni hanes gŵr a gwraig a helpodd gosod sylfeini Plaid Cymru.
Bu’r Dr DJ Davies a’i briod Dr Noëlle Davies yn ffigurau amlwg yn ystod degawdau cyntaf y blaid genedlaethol. Yn gyn-löwr a deithiodd America gynt, fe ddatblygodd David James Davies bolisi economaidd y Blaid - gan groesi cleddyfau ambell dro gyda llywydd y mudiad, Saunders Lewis - yn ystod tridegau’r 20fed canrif.
Priododd â Noëlle Ffrench, a hanodd o Iwerddon, ar ôl iddyn nhw gwrdd yng Ngholeg Rhyngwladol y Bobl yn Elsinore, Denmarc ac fe geisiodd y ddau sefydlu rhywbeth tebyg yn eu cartref, Pantybeiliau, Y Fenni.
Roedd arbenigedd y ddau ar bolisi economaidd Gwyddelig a Sgandinafaidd yn ddylanwadol iawn, a chyhoeddodd DJ Davies ddogfen bwysig Can Wales afford Self-Government?, gyda’i ateb pendant, ‘Ie’!
Traddodir darlith yn Gymraeg ar hanes y pâr un-igryw hwn gan yr Athro Richard Wyn Jones ar faes yr Eisteddfod am 2:30pm, Dydd Mawrth, 2 Awst ym Mhabell y Cymdeithasau 2.
Mae Richard Wyn Jones Athro yng Ngwleidyddiaeth Cymru ac yn Gyfar-wyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn dwyn y teitl Iwerddon, Denmarc Cymru a’r Byd: cenedlaetholdeb rhyngwladol DJ a Dr Noëlle Davies, bydd yn cynnig golwg amserol iawn i’w gynnig yn sgil y refferendwm diweddar ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.