Mwy o Newyddion
Taith y Morris dros ymchwil MS
DAIR blynedd yn ôl llwyddodd Philip a Catherine Barnett o Ddeganwy i gwblhau taith o 2,020 milltir o Land’s End i John O’ Groats yn eu Morris Minor a chodi £8,600 tuag at ymchwil MS. Nawr maent yn paratoi ar gyfer taith o 3,150 o filltiroedd o gwmpas arfordir gwledydd Prydain, eto yn yr hen gar a gofrestrwyd gyntaf yn Ebrill, 1971, a cheisio codi £15,000 y tro hwn.
Byddant yn cychwyn ar eu taith o’u cartref yn Neganwy ddydd Sul, Awst 14, gan dreulio 18 di-wrnod yn teithio. Mae’r paratoadau ar gyfer aros dros nos i gyd wedi eu cwbwlhau a byd-dant yn aros gyda ffrindiau dros chwe noson yn ddidâl.
Pan ddarganfuwyd yn 2009 bod mab Philip a Catherine, Tim, yn dioddef o MS ac yntau ond yn 34 oed ac yn athro Mathemateg, penderfynodd y ddau wneud popeth o fewn eu gallu i godi arian drwy ‘Buxton and Glossop Friends Fighting MS’.
Bydd yr holl arian a gesglir yn mynd tuag at ‘Cambridge MS Research Project’.