Mwy o Newyddion
Torf fawr yng Nghaerfyrddin i gofio Gwynfor a 1996
DAETH cannoedd o bobl o bob rhan o Gymru ynghyd ar Sgwâr Caerfyrddin ddydd Sadwrn (Gorffennaf 16) i goffáu buddugoliaeth hanesyddol Gwynfor Evans fel Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru union 50 mlynedd yn ôl.
Roedd achlysur is-etholiad Caerfyrddin ar 14 Gorffennaf, 1966 yn ddaeargryn gwleidyddol. Fe newidiwyd wyneb gwleidyddiaeth Cymru a Phrydain, gan i’r SNP ennill sedd yn yr Alban yn fuan wedyn.
Fe’i gwelir gan lawer fel y sbarc gwleidyddol a daniodd y daith hir i ddatganoli yn y ddwy wlad. Cafodd plac mawr ei greu gan y cerflunydd Cymreig blaenllaw Roger Andrews, a fu’n gyfrifol am y cerflun o Syr Tasker Watkins VC tu allan i Stadiwm Principality.
Fe’i dadorchuddiwyd gan Cyril Jones, asiant Gwynfor Evans yn etholiad 1966, ac Alcwyn Deiniol Evans, un o feibion Gwynfor. Roedd nifer o arweinwyr Plaid Cymru yn bresennol, gan gynnwys Leanne Wood, ynghyd ag aelodau seneddol, aelodau cynulliad ac arweinwyr cynghorau.
“Ni fyddai Cynulliad yng Nghaerdydd heddiw oni bai am Gwynfor Evans. Mae’r gofeb yn dathlu’r hyn gyflawnodd dyn rhyfeddol hwn” meddai Peter Hughes Griffiths o Ymddiriedolaeth Gwynfor Evans, a drefnodd y gofeb.
Wedi’r seremoni i ddadorchuddio’r plac, bu cyfarfod yng nghapel Heol Awst i ddathlu gwahanol agweddau o fywyd Gwynfor: y gwleidydd, y Cristion a’r heddychwr.
Ymhlith y cyfranwyr roedd Dafydd Wigley, aelodau o deulu Gwynfor, a Jonathan Edwards AS – a fu’n darllen rhannau o araith gyntaf Gwynfor i Dŷ’r Cyffredin ym 1966. Ar brynhawn llawn emosiwn fe wnaeth y gynulleidfa fawr o tua 500 yn y capel ymuno i ganu ‘Wyt ti’n cofio Sgwâr Caerfyrddin?’