Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Gorffennaf 2016

Y diweddar A.J.S. 'Bill' Williams MBE yn cael ei anrhydeddu yn Aber

MAE’R diweddar A.J.S ‘Bill’ Wil-liams MBE (1920-2016) wedi cael ei anrhydeddu â Chymrodoriaeth Prifysgol Aberystwyth ar ôl ei farwolaeth. Yn 2014 enwyd Bill yn un o 175 o Wynebau Cemeg y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, i gydnabod y gwaith a wnaeth yn addysgu dros 80,000 o blant ysgol yn ystod ei yrfa hir ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1950-2011.Yn rhan o fenter y Gymdeithas Gemeg Frenhinol i annog diddordeb mewn gwyddoniaeth ymhlith plant 10–12 oed, dyfeisiodd Bill y ddarlith arddangosfa ‘Science and Energy’, sy’n dangos bod ynni yn digwydd mewn gwahanol ffurfiau sy’n gyfnewidiadwy, lle’r oedd y disgyblion yn cyflawni’r holl arbrofion. Traddodwyd y ddarlith ledled y wlad ar tua 800 o achlysuron.Bu farw Bill ym mis Mai 2016 yn 95 oed. Derbyniwyd y Gymrodo-riaeth er Anrhydedd ar ei ran gan ei frawd Peter Williams er cof iddo.

Gwnaed y cyflwyniad gan yr Athro Andrew Evans o’r Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg.

Rhannu |