Mwy o Newyddion
Ymchwil newydd yn cynnig tystiolaeth fod ymgyrch blodau gwyllt yn dod a chymunedau at ei gilydd
MAE Tyfu’n Wyllt, yr ymgyrch blodau gwyllt fwyaf erioed yng ngwledydd Prydain, wedi bod yn dod â phobl at ei gilydd o gefndiroedd amrywiol ac o bob rhan o gymdeithas i greu newid cadarnhaol, parhaol yn eu cymuned, yn ôl ymchwil a gyhoeddir heddiw. Mae llwyddiannau Tyfu’n Wyllt, gan gynnwys nifer o brosiectau a ariannwyd ar draws Cymru, wedi helpu ennill lle iddyn nhw yn rownd derfynol Gwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni, lle y bydd y cyhoedd yn pleidleisio dros eu hoff brosiect a ariannwyd gan y Loteri.
Mae ymchwil annibynnol a gynhaliwyd ar-lein ac mewn grwpiau trafod gan Forest Research (asiantaeth weithredol y Comisiwn Coedwigaeth) yn dangos yn glir iawn yr argraff ryfeddol a wnaeth y rhaglen ledled gwledydd Prydain. Mae Tyfu’n Wyllt wedi hybu cydweithio cymunedol ac wedi ysbrydoli pobl i wneud rhywbeth cadarnhaol dros natur lle maen nhw’n byw. Hyd yn hyn, cymerodd 3 miliwn o bobl ran, o ganol dinasoedd i bellafoedd eithaf Uwchdiroedd Yr Alban, gan hau digon o hadau Tyfu’n Wyllt i orchuddio mwy na 3.7 miliwn metr sgwâr. Mae hynny’n ddigon i greu llwybr metr o led o flodau gwyllt yr holl ffordd o Land’s End i John o’ Groats… bron i bedair gwaith. Ac mae hynny’n cynnwys y sawl fu’n hau hadau blodau gwyllt ymhob rhan o Gymru.Cynhaliodd Forest Research gyfweliadau a grwpiau trafod lled-ffurfiol gyda 135 o bobl ym mhrosiectau cymunedol a safleoedd prif brosiectau Tyfu’n Wyllt. Mae’r data a gyhoeddir heddiw yn cofnodi’r balchder a deimlai pobl o weithio gyda’i gilydd ar brosiect cyffredin, a dywedodd llawer eu bod wedi dysgu oddi wrth ei gilydd, ac yn teimlo fod y cydlynedd hwn yn hollbwysig er mwyn gwella eu cymuned.
Er 2014, daeth 48% o’r prosiectau cymunedol a ariannwyd gan Tyfu’n Wyllt o’r 30% ardal fwyaf difreintiedig yng ngwledydd Prydain. Yn 2016 yn unig, roedd 18% o’r prosiectau a ariannwyd yn y 10% ardal fwyaf difreintiedig (yn ôl dadansoddiadau cod post yn defnyddio’r Mynegeion Amddifadedd Lluosog).
Canfu Forest Research mai pobl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig hyn elwodd fwyaf o’r rhaglen, ac mae pecynnau hadau Tyfu’n Wyllt yn gwneud argraff arbennig yno hefyd. Roedd pobl a gafodd becyn hadau mewn ardaloedd mwy difreintiedig gryn dipyn yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi dysgu am flodau gwyllt ac am eu cymunedau.
Yng Ngheredigion mae Blooming Wild Cardigan, prosiect a ariannwyd gan Tyfu’n Wyllt sy’n cael ei redeg gan 4CG - y Gymdeithas i Gynnal a Chefnogi Cefn Gwlad, yn ysbrydoli pobl ifanc i wneud argraff gadarnhaol ar yr amgylchedd mewn ffyrdd creadigol. Mae’r grŵp yng Nghaffi Celf Pendre yn gwau gwenyn er mwyn ceisio addysgu’r cyhoedd am bwysigrwydd pryfed sy’n peillio a blodau gwyllt. Dywedodd arweinydd y prosiect, Gwenda Mark: “Mae ein gwenyn wedi’u gwau dros y dref i gyd, gyda labeli’n dweud ‘ewch â fi i’r ysbyty gwenyn yng Nghaffi Celf Pendre os gwelwch yn dda’, ac yno caiff pobl becyn o hadau a chyfarwyddiadau ar sut i ofalu am flodau gwyllt. Rydyn ni wedi gweld y blodau yn ymddangos ymhobman, gan gynnwys mewn esgidiau glaw. Erbyn hyn, mae’r grŵp mor brysur â gwenyn yn gwau blodau gwyllt ar gyfer gosodiad celf mawr. Bob wythnos mae pobl wahanol yn galw heibio, a bu’n ffordd wych o gael y gymuned at ei gilydd, trwy waith crefft, natur a gweithgareddau tyfu.”Mae llawer o bobl ifanc wedi mynd ati i hau a thyfu blodau gwyllt hefyd, ac aeth bron i 20% (dros chwarter miliwn) o becynnau hadau rhad ac am ddim Tyfu’n Wyllt i grwpiau o bobl rhwng 12 a 25, oed, ac roedd nifer o brosiectau a ariannwyd yn targedu’r grŵp oed hwn yn benodol.
Cymerodd 66,000 o bobl ran yn arolwg ar-lein Forest Research ar ôl derbyn pecyn rhad ac am ddim o hadau gan Tyfu’n Wyllt; dywedodd 73% eu bod yn teimlo eu bod wedi’u cysylltu â rhywbeth mwy; treuliodd 61% fwy o amser gyda’u teuluoedd, yn hau hadau gyda’i gilydd ac roedd 79% yn teimlo mwy o gyfrifoldeb am fywyd gwyllt brodorol.
Oherwydd eu bod wedi derbyn y pecynnau hadau Tyfu’n Wyllt, roedd 87% o bobl yn teimlo fod eu grŵp wedi dysgu am flodau gwyllt ac aeth 22% ymlaen i wneud rhywbeth arall i’w cymuned, fel trefnu prosiect neu ddigwyddiad.