Mwy o Newyddion
Afon Conwy: daeth dydd y penderfyniad
YR wythnos nesaf, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi ei benderfyniad ynghylch cynllun trydan dŵr arfaethedig ar gyfer Afon Conwy, gan geisio cyflwyno atebion i gwestiynau ynghylch y cynllun trydan dŵr arfaethedig gan y cawr amlwladol ym maes cynhyrchu ynni, RWE, a’i effeithiau ar Ffos Anoddun a Rhaeadr y Graig Lwyd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNW) wedi bod yn delio â’r drwydded Tynnu Dŵr ar gyfer y cynllun ers mis Ebrill 2015. Byddai’r drwydded hwn yn dynodi faint o ddŵr gallai’r datblygwr ei dynnu o Afon Conwy, pe rhoddid caniatâd cynllunio i’r prosiect. Byddai hyn yn ei dro yn penderfynu pa mor ddifrifol fyddai effeithiau’r cynllun ar ddarn 2km o Afon Conwy sy’n bwysig i fywyd gwyllt, pysgotwyr, caiacwyr, ffotograffwyr ac ymwelwyr. “Rydym ni’n awyddus i glywed beth sydd wedi’i benderfynu. Fel arfer, bydd CNC yn prosesu’r ceisiadau hyn am drwyddedau o fewn ychydig wythnosau, ond y tro hwn, mae hynny wedi cymryd dros 15 mis,” meddai Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, John Harold.
Yn ôl gwefan CNC, “Oherwydd cymhlethdod y cais a’r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd i ni gan y datblygwr (yn unol â’n cais) nid ydym yn disgwyl gwneud penderfyniad ar y trwyddedau tan 29 Gorffennaf 2016.” (Gwefan CNC, darllenwyd 13/07/2016).
“Mae CNC wedi rhoi llawer o drwyddedau o’r fath ar gyfer cynlluniau eraill, felly mae rhesymau clir pam fod yr achos hwn yn cymryd llawer iawn mwy o amser na’r hyn sy’n arferol. Os yw hi’n anodd i CNC wneud penderfyniad, mae’n amlwg bod pryderon gwirioneddol ynghylch difrifoldeb effeithiau’r cynllun. Os felly, gallwn ddisgwyl ymateb rhagofalus gan CNC.
”Ym mis Mai, achoswyd llygredd difrifol yn Llyn Padarn gan gynllun trydan dŵr ar Afon Las, yn ystod gwaith adeiladu prosiect sy’n bitw o’i gymharu â’r prosiect arfaethedig ar gyfer Afon Conwy. Roedd y cynllun hwnnw wedi cael yr holl ganiatâd gofynnol, ond gwnaed difrod difrifol i’r safle serch hynny, a llygrwyd Llyn Padarn. “Mae hyn yn codi cwestiwn sydd cyn bwysiced: os oes angen ymhell dros flwyddyn i brosesu cais Ffos Anoddun/Rhaeadr y Graig Lwyd yn briodol, pam mae cymaint o geisiadau eraill ynghylch cynlluniau trydan dŵr wedi cael eu prosesu mor gyflym? Rydym ni wedi bod yn erfyn ar CNC a’r Parc Cenedlaethol i graffu ar bob cais yn ofalus, a monitro a gorfodi caniatâd a roddir yn effeithiol wedi hynny. O gofio fod rhai gweithredwyr yn fwriadol yn cymryd mwy o ddŵr o afon na’r hyn a ganiateir, a llygredd difrifol yn deillio o adeiladu cynlluniau newydd, mae’n rhaid i CNC a’r Parc Cenedlaethol weithredu i warchod ein hafonydd.”
“Rydym yn croesawu’r craffu gofalus ac rydym yn gobeithio y bydd penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru yn effeithiol o ran amddiffyn y rhan hynod sensitif hon o Afon Conwy. Yn amlwg, maent wedi’u dal rhwng cwmni amlwladol sy’n cael sylw gan Lywodraeth Cymru ar y naill law, a phryder cyhoeddus enfawr ar y llaw arall. Wrth wraidd y pryder cyhoeddus hwn mae’r synod bod llefydd mor arbennig â Rhaeadr y Graig Lwyd a Ffos Anoddun – SoDdGA a llecyn prydferth enwog mewn Parc Cenedlaethol - yn cael eu hystyried hyd yn oed am y math hwn o ddatblygiad diwydiannol mawr.”
Y cefndirYN Ebrill 2015, fe wnaeth y cawr cydwladol ym maes cynhyrchu ynni, RWE, gyflwyno cais am ganiatâd cynllunio i adeiladu cynllun trydan dŵr mewn llecyn prydferth enwog ar Afon Conwy ym Metws y Coed ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae ceunant Ffos Anoddun wedi’i ddynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd ei nodweddion arbennig o ran cadwraeth natur.Byddai’r cynnig yn arwain at adeiladu cored newydd ar draws Afon Conwy a byddai dros 2km o’r afon yn profi gostyngiadau enfawr yn llif y dŵr, yn sgil dargyfeirio dŵr trwy bibell a fyddai’n mesur 7 troedfedd o ran ei diamedr. Byddai hyn yn effeithio ar blanhigion prin a physgod mudol megis lampreiod, eogiaid a brithyllod, yn ogystal â misglod perlog. Mae’r rhannau sydd wedi’u heffeithio yn cynnwys Rhaeadr y Graig Lwyd a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Ffos Anoddun. Byddai’r cynllun hefyd yn cynnwys adeiladu neuadd dyrbinau fawr, adeilad cysylltiad â’r grid, adeiledd gollwng dŵr, twneli o dan yr A5 a difrod i goed mewn llecyn lle ceir coetir hynafol.
Fe wnaeth pryderon am effeithiau’r datblygiad arwain at dros 900 o lythyrau o wrthwynebiad at y Parc Cenedlaethol, deiseb yn cynnwys dros 6,000 o lofnodion, a gwrthwynebiad gan fusnesau a sefydliadau lleol yn cynnwys Pysgotwyr Betws y Coed, yr Ymddiriedolaeth Coedlannau, Cymdeithas Eryri, Achubwch Afon Conwy, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, Canŵ Cymru a’r Ganolfan Fynydda Genedlaethol ym Mhlas y Brenin. Fe wnaeth Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen hefyd wrthwynebu oherwydd pryderon ynghylch diogelwch yn ymwneud â’r gored arfaethedig newydd a’r pwll ar yr afon. Wedi llawer o oedi a dadlau, gwrthodwyd y cais gan Bwyllgor Cynllunio’r Parc ym mis Mawrth 2016.
Mae RWE bellach yn dweud eu bod wedi cyflwyno cais newydd.