Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Mehefin 2011

Traed 'dani i gychwyn busnes

Bydd cyfle i bobl ar draws Gwynedd fynychu cyfres o weithdai “Bwtcamp Busnes” i’w hysbrydoli, annog a’i herio i fentro i fyd busnes.

Cynhelir y sesiynau dwy awr “ar leoliad” mewn busnesau ar draws y Sir. Bydd y rhain yn cynnwys Bragdy Miws Piws ym Mhorthmadog a Moduron Menai yng Nghaernarfon. Yn ogystal â darparu cyd-destun perffaith, bydd y perchnogion busnes hefyd ar law i rannu gwybodaeth a phrofiad.

Bydd y gweithdai Bwtcamp yn defnyddio dulliau arloesol i annog unigolion i agor eu meddyliau ac adnabod cyfleoedd newydd yn seiliedig ar ei diddordebau, sgiliau ac adnoddau. O hyn bydd modd cael mynediad at gyngor busnes un wrth un a chymorth ariannol.

Mae’r Bwtcamp Busnes yn rhan o’r Cynllun Galluogi a gyllidir trwy’r Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007-2013 sy’n cael ei gydlynu gan Gyngor Gwynedd ar ran Partneriaeth Economaidd Gwynedd.

Eglurodd Zoe Pritchard, Cydlynydd Galluogi: “Mae'r rhain wedi’u hanelu at unrhyw un sydd wedi ystyried cychwyn busnes - sydd yn golygu rhan fwyaf o bobl. Nid cyrsiau busnes fydd y rhain a byddwn ni ddim yn trafod cynlluniau busnes a llif arian. Y nod bydd adnabod syniadau, gweld sut gellid eu datblygu a chael ‘ychydig o hwyl yn y broses.”

Mae gweithdai Bwtcamp eisoes wedi ysbrydoli pobl i sefydlu ei busnesau. Ar ôl mynychu Bwtcamp llynedd aeth Lesley Cotterill-Ball ati i sefydlu busnes bwydydd a diodydd iach.

Eglurodd Lesley: “Cefais yr hyder a’r anogaeth oedd angen i gymryd y cam cyntaf. Mi sylweddolais nad oedd busnes yn gymhleth a doedd na ddim rhaid buddsoddi pres mawr. Y cwbwl sydd angen ydi syniad da a digon o frwdfrydedd.”

Cynhelir y gweithdai Bwtcamp yn fuan neu yn hwyr yn y dydd i gyd-fynd a gofynion gwaith pobl. Darperir brecwast neu swper a gan ei fod yn rhaglen peilot byddwn yn talu £20 tuag at dreuliau'r mynychwyr. Am ragor o wybodaeth ac i neilltuo lle cysylltwch â Zoe Pritchard ar 01766 514057.

Rhannu |