Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Gorffennaf 2016

Colli actor a storiwr arbennig

WRTH i’r papur hwn fynd i’r wasg yn gynnar brynhawn Mercher (Gorffennaf 20), fe ddaeth y newydd am farwolaeth yr actor, J O Roberts, yn 84 oed.

Roedd yr actor a anwyd yn Lerpwl, ond a ddaeth i fyw i Fôn gyda’i chwaer ddechrau’r Ail Ryfel Byd, yn adnabyddus am ei berfformiadau mewn nifer helaeth o ddramâu nodedig ar hyd y blynyddoedd, ar deledu ac ar lwyfan. Yn eu plith mae sawl rôl yn portreadu arwyr y genedl - gan gynnwys portread cofiadwy o Owain Glyndŵr yn y ffilm deledu ym 1983.Ymhlith y cyfresi nodedig eraill ar S4C mae ei rôl fel ysbïwr yn y gyfres Cysgodion Gdansk (1987); yn serennu gyda Sian Phillips yn Mae Hi’n Wyllt Mr Borrow (1984); y gyfres hiwmor cefn gwlad Hufen a Moch Bach (1983-1988); a’r ffilm Branwen (1994); a rhan Harri Vaughan yn y cyfresi Lleifior yn 1993 a 1995. Roedd hefyd yn perfformio’n gyson ar lwyfan.

Wrth dalu teyrnged, meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: “J O Roberts oedd y llais oedd yn cynrychioli darlledu safonol Cymraeg am gymaint o flynyddoedd ar y teledu a’r radio. Roedd o’n pontio’r traddodiad adrodd gyda’r grefft o actio proffesiynol ac yn cynrychioli’r gorau o’r ddau draddodiad hynny.

“Mi fu’n seren ar gyfresi a ffilmiau unigol lawer yn ystod yr 1980au a’r 1990au, gyda’i bersonoliaeth gref. Roedd o’n edrych y part, yn edrych ac yn swnio fel seren.”Yr wythnos ddiwethaf, fe anrhydeddwyd J O Roberts, ynghyd â’i ferch, Nia Roberts, â Chymrodoriaethau er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor. Marw ei ferch-yng-nghyfraith un dydd, fe ddaeth y newydd am farw’r arweinydd côr, Sioned James, a oedd yn ferch-yng-nghyfraith i J O Roberts.

Roedd hi’n 41 oed ac yn briod â’r cyflwyny-dd teledu, Gareth Roberts.

Merch o Landysul, Ceredigion, oedd hi, a phan symudodd i fyw i Gaerdydd, fe sefydlodd Gôrdydd, un o gorau ifanc a llwyddiannus y brifddinas. Roedd hi ei hun wedi dechrau yn aelod o gôr Ysgol Gerdd Ceredigion, dan hyfforddiant Islwyn Evans.

Gyda Chôrdydd, fe enillodd deitl Côr Radio’r Flwyddyn y BBC yn 2003, a daeth y côr yn fuddugol yng nghystadleuaeth Côr Cymysg i lai na 45 o leisiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol sawl gwaith.

Rhannu |