Mwy o Newyddion

RSS Icon

Lansio rhaglen camdrin domestig yng Ngwynedd sy'n helpu tadau ail-adeiladu perthynas gyda'u plant

MAE cynllun gwirfoddol ar Ynys Môn sy’n helpu tadau ail-adeiladu perthynas gadarnhaol â’u plant sydd wedi eu heffeithio gan gamdrin domestig, yn cael ei gyflwyno yng Ngwynedd.

Mae’r rhaglen Tadau Gofalgar yn Ynys Môn eisoes wedi atal dwsinau o blant rhag gorfod cael eu rhoi mewn gofal, wrth i dadau ailadeiladu perthynas gadarnhaol gyda’u teuluoedd. Bellach mae’r cynllun yn cael ei ehangu i Wynedd er mwyn helpu tadau yno i ddatblygu perthynas tad-plentyn iach, fel y gall eu plant barhau i fyw adref gyda’r teulu yn eu cartrefi yn ddiogel.

Mae’r cynllun arloesol yn cael ei redeg gan wasanaeth cymorth camdrin domestig Gorwel, a Gwasanaethau Camdrin Domestig De Gwynedd mewn partneriaeth â Thadau Gofalgar Canada. Rheolir Gorwel gan gymdeithas dai Grŵp Cynefin.

Yn ôl arweinydd y rhaglen, sy’n weithiwr cymdeithasol therapiwtig, Paul Jones, hyd yma mae’r cyfranogwyr wedi amrywio o ŵr 17 oed sy’n dad am y tro cyntaf i dad yn ei chwedegau.

“Maen nhw hefyd yn dod o sbectrwm cymdeithasol eang. Mae cyfranogwyr wedi cynnwys dyn digartref a thad sydd wedi ei addysgu i lefel prifysgol sydd â chymwysterau proffesiynol,” meddai.

Mae ymchwil yn dangos bod ymgysylltu effeithiol gyda thadau yn cynyddu’r cyfraniad cadarnhaol maen nhw’n ei gael ar fywydau eu plant. Mae hyn wedyn yn arwain at amrywiaeth o fanteision emosiynol, corfforol a gwybyddol i’r plant.

“Hyd yn hyn, mae dwsinau o blant wedi cael eu tynnu oddi ar y Rhestr Amddiffyn Plant ac nid oedd angen eu rhoi yng ngofal yr awdurdod lleol. Mae teuluoedd wedi aros gyda’i gilydd.

“Mae Tadau Gofalgar yn awyddus i gynyddu ymwybyddiaeth cyfranogwyr o agweddau, credoau ac ymddygiad sy’n ffurfio perthynas tad-plentyn. Mae hefyd yn cynyddu eu cyfrifoldeb am ymddygiad esgeulus a chamdrin a datblygu ymwybyddiaeth o dad sy’n canolbwyntio ar anghenion y plentyn.“Wrth gwrs yr elfen o ddiogelu plant yw’r prif flaenoriaeth i ni, ond gyda’r esgid yn gwasgu allwn ni ddim diystyru’r ffaith bod y gost o gadw un plentyn mewn gofal yn £1,000 yr wythnos a bod gofal i blentyn ag anghenion arbennig yn amrywio rhwng £3,000 a £4,000 yr wythnos. Arian trethdalwyr drwy’r awdurdodau lleol yw hwnnw.”

Erbyn hyn mae’r tîm yn cyhoeddi bod y rhaglen bellach yn weithredol yng Ngwynedd a hynny drwy’r ymwelwyr iechyd, bydwragedd, gwasanaethau cymdeithasol, meddygon teulu ac asiantaethau eraill. Gall tadau hefyd gyfeirio eu hunain at y rhaglen. Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael eu hasesu i benderfynu a ydynt yn addas ar gyfer y rhaglen.

Rhannu |