Mwy o Newyddion
Lansio rhaglen camdrin domestig yng Ngwynedd sy'n helpu tadau ail-adeiladu perthynas gyda'u plant
MAE cynllun gwirfoddol ar Ynys Môn sy’n helpu tadau ail-adeiladu perthynas gadarnhaol â’u plant sydd wedi eu heffeithio gan gamdrin domestig, yn cael ei gyflwyno yng Ngwynedd.
Mae’r rhaglen Tadau Gofalgar yn Ynys Môn eisoes wedi atal dwsinau o blant rhag gorfod cael eu rhoi mewn gofal, wrth i dadau ailadeiladu perthynas gadarnhaol gyda’u teuluoedd. Bellach mae’r cynllun yn cael ei ehangu i Wynedd er mwyn helpu tadau yno i ddatblygu perthynas tad-plentyn iach, fel y gall eu plant barhau i fyw adref gyda’r teulu yn eu cartrefi yn ddiogel.Mae’r cynllun arloesol yn cael ei redeg gan wasanaeth cymorth camdrin domestig Gorwel, a Gwasanaethau Camdrin Domestig De Gwynedd mewn partneriaeth â Thadau Gofalgar Canada. Rheolir Gorwel gan gymdeithas dai Grŵp Cynefin.Yn ôl arweinydd y rhaglen, sy’n weithiwr cymdeithasol therapiwtig, Paul Jones, hyd yma mae’r cyfranogwyr wedi amrywio o ŵr 17 oed sy’n dad am y tro cyntaf i dad yn ei chwedegau.“Maen nhw hefyd yn dod o sbectrwm cymdeithasol eang. Mae cyfranogwyr wedi cynnwys dyn digartref a thad sydd wedi ei addysgu i lefel prifysgol sydd â chymwysterau proffesiynol,” meddai.Mae ymchwil yn dangos bod ymgysylltu effeithiol gyda thadau yn cynyddu’r cyfraniad cadarnhaol maen nhw’n ei gael ar fywydau eu plant. Mae hyn wedyn yn arwain at amrywiaeth o fanteision emosiynol, corfforol a gwybyddol i’r plant.
“Hyd yn hyn, mae dwsinau o blant wedi cael eu tynnu oddi ar y Rhestr Amddiffyn Plant ac nid oedd angen eu rhoi yng ngofal yr awdurdod lleol. Mae teuluoedd wedi aros gyda’i gilydd.“Mae Tadau Gofalgar yn awyddus i gynyddu ymwybyddiaeth cyfranogwyr o agweddau, credoau ac ymddygiad sy’n ffurfio perthynas tad-plentyn. Mae hefyd yn cynyddu eu cyfrifoldeb am ymddygiad esgeulus a chamdrin a datblygu ymwybyddiaeth o dad sy’n canolbwyntio ar anghenion y plentyn.
“Wrth gwrs yr elfen o ddiogelu plant yw’r prif flaenoriaeth i ni, ond gyda’r esgid yn gwasgu allwn ni ddim diystyru’r ffaith bod y gost o gadw un plentyn mewn gofal yn £1,000 yr wythnos a bod gofal i blentyn ag anghenion arbennig yn amrywio rhwng £3,000 a £4,000 yr wythnos. Arian trethdalwyr drwy’r awdurdodau lleol yw hwnnw.”
Erbyn hyn mae’r tîm yn cyhoeddi bod y rhaglen bellach yn weithredol yng Ngwynedd a hynny drwy’r ymwelwyr iechyd, bydwragedd, gwasanaethau cymdeithasol, meddygon teulu ac asiantaethau eraill. Gall tadau hefyd gyfeirio eu hunain at y rhaglen. Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael eu hasesu i benderfynu a ydynt yn addas ar gyfer y rhaglen.