Mwy o Newyddion
Craig Elvis yn hybu papur bro Gogledd America
MAE darlun o Graig Elvis, sy ar yr A44 rhwng Llangurig ac Aberystwyth yn y Canolbarth, nawr yn gyfrwng i hyrwyddo Ninnau papur bro Cymry Gogledd America.
Mae’r darlun, o waith yr arlunydd o Geredigion Wynne Melville Jones, yn cael lle amlwg yn y rhifyn cyfredol o Ninnau ac mae cyfle i un o’r darllenwyr i ennill print cyfyngedig o’r darlun gwreiddiol. Bydd stondin gan y gymdeithas yn Eisteddfod Genedlaeth Cymru Y Fenni ym mis Awst. Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yng Ngŵyl Cymry Gogledd America a gynhelir eleni yn Calgary Alberta o’r cyntaf hyd y pedwerydd o Fedi.
Ym mis Mai eleni cyflwynwyd print o’r darlun gwreiddiol i Graceland, Memphis, Tennessee, hen gartref Elvis, sy bellach yn archif ac yn amgueddfa sy’n denu degau o filoedd o ymwelwyr yn flynyddol.
Mae’r darlun a beintiwyd yn wreiddiol ar gyfer arddangosfa o waith yr artist yn Oriel Rhiannon Tregaron, yn gynhrarach eleni, wedi ennyn cryn ddiddordeb yng Nghymru a thu hwnt ac mae’r stori y tu ôl i’r llun wedi cael sylw y tu hwnt i Gymru ar y cyfryngau rhyngwladol ac ar y rhwydweithiau cymdeithasol.
Un noson, fe aeth dau lanc ifanc allan yn y gwyll i lethrau Pumlumon a phaentio’r enw ELLIS (camsillafiad o ELIS) ar graig wrth ymyl Eisteddfa Gurig er mwyn cefnogi Islwyn Ffowc Elis ymgeisydd Plaid Cymru mewn is-etholiad yn Sir Drefaldwyn yn 1962. Yn fuan wedi’r etholiad newidwyd ELLIS i ELVIS gan berson anhysbys. Mae’r enw ar y graig wedi goroesi ers dros hanner canrif ac mae’n cael ei ystyried bellach yn safle iconic ac yn deyrned cenedlaethol i Frenin y Roc a Rôl ar ran Gwlad y Gân.
Dywedodd Wynne Melville Jones ei fod, fel llawer o bobl eraill, wedi teithio heibio’r graig lawer lawer gwaith a’i fod yn ei ystyried fel carreg filltir wrth deithio adre i Geredigion a bod y ddau berson sy’n gysylltiedig â’r graig gael cryn ddylanwad arno“Bu Elvis yn rhan allweddol o’m diwylliant pan oeddwn yn fy arddegau a chefais y fraint o ddod i adnabod Islwyn Ffowc Elis yn dda fel darlithydd i mi pan oeddwn yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod yng Nghaerfyrddin. Mae gen i deimlad bod Elis yn ddigon hapus i fod yn rhannu yr un llwyfan ag Elvis.“Rwy’n falch iawn o’r cyfle i gael cydweithio gyda Ninnau a Chymdeithas Cymry Gogledd America sy’n anelu at gyflawni gwaith pwysig yn ceisio creu cyswllt cyson ymlith y gymuned Gymraeg alltud, a gobeithio y bydd y llun yn gymorth tuag at bontio ymhellach rhwng Cymry Gogledd America a’r hen-wlad,” meddai Wynne Melville Jones.
Ninnau ac Y Drych yw papur bro Cymry Gogledd America. Yn 2013 unwyd Ninnau gyda phapur newydd Cymreig hynaf yr Americas, Y Drych. Bellach mae’r ddau yn un ac yn dar-paru gwasanaeth cyflawn i’r gymuned Gymreig yng Ngogledd America. Maen nhw wedi ymrwymo i ddiogelu ac i gyfoethogi bwrlwm bywyd y gymuned Gymreig yng Ngogledd America. Amcangyfrifir bod mwy na 2 filiwn o bobol o dras Cymreig yn yr Unol Daleithiau a Chanada.