Mwy o Newyddion
Llywydd y sioe yn cychwyn ymgyrch yr haf trwy arwain arwerthiant Cig Oen Cymru
YN y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddydd Mawrth yr wythnos hon (Gorffennaf 19), cynhaliodd Llywydd y Sioe Frenhinol am eleni, Mr. W. Richard Jones FLAA FRAgS, arwerthiant elusennol arbennig o Gig Oen Cymru ar stondin Hybu Cig Cymru (HCC).
Gwerthodd Richard Jones oen tymor-newydd PGI, wedi ei rannu’n doriadau gwych, i nodi dechrau’r cyfnod pan y mae Cig Oen Cymru ar ei orau, ac i edrych ymlaen at ddigwyddiad ‘Calan Awst – Calan Oen’ ar Awst 1.Mae ‘Calan Awst – Calan Oen’ yn dynodi cychwyn ymgyrch farchnata haf a hydref HCC ar gyfer Cig Oen Cymru PGI ym marchnad Prydain. Bydd nifer o ddigwyddiadau ar Awst 1, gyda’r pwyslais ar ddathlu cychwyn y tymor ŵyn newydd. Esbonia Prys Morgan, Pennaeth Gweithrediadau HCC, y rhesymeg y tu ôl i’r ymgyrch farchnata. “Mewn traddodiadau Celtaidd mae Awst 1 – diwrnod Lammas neu Galan Awst – yn ddiwrnod cyntaf dathliadau cynhaeaf. Pa ffordd well o hybu Cig Oen Cymru nag atgyfodi’r traddodiad yma, a phwysleisio safon uchel cynnyrch Cymru i’r farchnad gartref.”
Ychwanegodd Prys, “Mae HCC yn ddiolchgar iawn i Richard Jones, Llywydd y Sioe, am roi o’i amser mewn wythnos mor brysur i gynnal ein arwerthiant i lansio’r ymgyrch farchnata Cig Oen Cymru. “Byddwn yn dilyn hyn gyda digwyddiadau arbennig ar Awst 1, ac ymgyrch aml-gyfrwng i werthu Cig Oen Cymru i fwy fyth o gwsmeriaid trwy gydol yr haf a’r hydref."
Yn y llun: Pennaeth Gweithrediadau HCC Prys Morgan; Wyn Williams, Dunbia a brynodd y cig; Llywydd y Sioe Richard Jones; Prif Weithredwrf HCC, Gwyn Howells.