Mwy o Newyddion
Mae'r Eryr wedi hedfan y nyth…
YN syth wedi i Angela Eagle ddweud y byddai’n ildio’i lle i Owen Smith i geisio torri pen Jeremy Corbyn dechreuodd ol-wynion y sefydliad Seisnig daenu eu llysnafedd. Agorodd News at Ten y noson honno gyda’r cyflwynydd Tom Bradby, a niwl dros ei lygaid, yn gofyn ‘Owen who?’Ychydig a ŵyr y cyfryngau Llundeinig am Owen Smith, AS Pontypridd. Ni ŵyr y Cymry lawer iawn amdano serch iddo fod yn gysgod Ysgrifennydd Cymru, ac ychydig o sylw sydd i’r swydd honno pan fydd y Ceidwadwyr mewn grym, hyd yn oed pan na fydd yn gwbl gefnogol i’r hyn mae Llafur yn ei wneud yn Senedd Caer-dydd. Mae’n cael ei big i mewn ar raglenni teledu a radio Saesneg yng Nghymru a dyna’i gyd. Dyna pam, felly yr oedd y wasg a’r teledu yn Llundain yn codi eu haeliau wrth holi pwy yw hwn sydd wedi dod o unlle fel petai i hawlio coron y Blaid Lafur.
Gŵyr amryw yng Nghymru am ei dad, yr hanesydd Dai Smith, cefnogwr Llafur a fu tan yn ddiweddar yn gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru. Cyn hynny roedd yn Bennaeth Rhaglen-ni Saesneg BBC Cymru/Wales yn yr ail gyfnod Talfanaidd o fewn y Gorfforaeth. Bu Owen Smith hefyd yn gweithio i BBC Cymru/Wales, ymgeisio’n aflwyddiannus am sedd Blaenau Gwent, treulio cyfnod fel ymgynghorydd arbennig i Lafur cyn ymuno a chwmni Pfitzer a dod yn aelod seneddol Pontypridd. Rhaglen Newsnight o stabal ei gyn-gyflogwyr a dyrchodd y stori amdano yn ffonio’r heddlu pan oedd yn gweithio i’r BBC, ac fe wnaethant hynny y noson cyn iddi fod yn bendant mai ef a fyddai’n cys-tadlu am yr arweinyddiaeth yr haf hwn.
Y stori a fu ar led am rai blynyddoedd oedd fod Owen Smith wedi ffonio 999 pan oedd yn gynhyrchydd gyda’r BBC yn mynnu cael gair gyda phrif gwnstabl. Gwnaed cwyn swyddogol yn ei erbyn. Erbyn yr wythnos hon mae’n dweud mai ymchwilydd radio oedd ei waith ar y pryd a bod y bennod honno wedi bod yn un anffodus iawn yn ei hanes.Tyrchwyd rhagor i’w gefndir. Gwnaeth sylw am breifateiddio’r Gwasanaeth Iechyd pan oedd gyda’r cwmni cyffuriau. Bellach, fel dilynwr Bevan, mae’r GIG yn sanctaidd iddo.Ataliodd ei bleidlais pan oedd y Mesur Lles dadleuol gerbron y Tŷ. Roedd hynny’n gamgymeriad, meddai.Nid yw iau Iraq ar ei war gan nad oedd yn aelod seneddol tan 2010. Mae’n egluro y byddai wedi pleidleisio yn erbyn mynd i ryfel petai yno bryd hynny.Wrth i’r cyllyll gael eu miniogi i ddarnio’r aelod Cymreig ymhellach mae’n rhaid gofyn a oes gan y newydd-ddyfodiad unrhyw obaith o ddod yn arweinydd ym mis Medi. O leiaf mae hi rhwng dau erbyn hyn. Mae llawer yn dibynnu ar y nifer fydd wedi ymuno â charfan £25 y Blaid Lafur ac a fyddant yn ddigon i droi’r fantol yn erbyn Jeremy Corbyn. Er ei fod yn wrthun i’r Blaid Lafur seneddol mae Corbyn yn annwyl iawn ymhlith yr aelodau a’i cefnogodd y llynedd, er y byddai llawer yn cydnabod nad oes deunydd Prif Weinidog ynddo.A fyddant yn gweld mwy o stamp Prif Weinidog ar Owen Smith? Ai rhyw Welshie o’r Cymoedd a fydd aelod Pon-typridd yng ngolwg yr aelodaeth? Ni fyddai ef am gael ei ddisgrifio felly ond gan wybod am ymateb y wasg Lundeinig, a hyd yn oed y cyfnyngau eraill, bydd y ffaith ei fod yn dod o Gymru yn milwrio yn ei erbyn.Ei obaith mawr er mwyn torri’n rhydd o gyfnod Tony Blair yw newid Cymal 4 yng nghyfansoddiad y blaid i fynd i’r afael ag anghyfartaledd. Mae’n credu y bydd hynny’n denu cefnogwyr Corbyn ato.
Pan ddaw canlyniad y bleidlais ym mis Medi ac yntau’n colli beth fydd yn digwydd wedyn? Ai Owen Smith yw’r dyn i arwain y Blaid Lafur Seneddol i ffurfio plaid sy’n adlewyrchu eu dyheuadau a hollti Llafur yn rhacs? Nid yw’n barod i ddychmygu y gall y fath beth ddigwydd, ond pwy a ŵyr.