Mwy o Newyddion
Leanne Wood yn annog gweithredu pendant i roi buddiannau Cymru ar agenda’r Prif Weinidog
Mae Leanne Wood heddiw wedi herio’r Prif Weinidog Carwyn Jones i gadarnhau pryd fydd Prif Weinidog newydd Prydain yn ymweld â Chymru.
Cyfeiriodd Arweinydd Plaid Cymru at y cyferbyniad rhwng brys Ms May yn ymweld â’r Alban gyda’r hyn sy’n ymddangos fel diffyg pwysigrwydd dod i Gymru.
Dywedodd y Prif Weinidog Llafur yn flaenorol “nad oedd yn gwybod llawer” am y Prif Weinidog newydd.
Dywedodd Leanne Wood arweinydd Plaid Cymru: “Ni all Cymru fod yn bartner mud yn y ddadl dros berthynas y DG gyda’r Ewrop yn y dyfodol.
“Mae disgwyl i genhedloedd y DG sy’n siarad gyda’r llais uchaf yn cael y mwyaf o sylw gan San Steffan a gan y Prif Weinidog yno.
“Am lawer rhy hir, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn dyst di-hid, ac yn llawer rhy barod i adael i San Steffan anwybyddu Cymru.
"Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth yr Alban wedi sicrhau setliad datganoli llawer cryfach na’r hyn sydd wedi ei gael yma.
“Bydd angen i Ms May ymweld â Chaerdydd i ymdrin â’n buddiannau penodol ni.
"Dylai hi ddefnyddio Mesur Cymru a chanlyniadau Brexit i sicrhau bargen deg i Gymru, neu wynebu etifeddu enw ei rhagflaenydd fel rhywun oedd yn fodlon ein trin fel cenedl eilradd.
“Rhaid i’r Prif Weinidog Llafur nawr weithredu’n fwy pendant i sicrhau fod buddiannau cenedlaethol Cymru ar agenda’r Prif Weinidog.
"Yn ystod yr amseroedd anodd hyn, ni allwn fforddio cael diffyg gweithredu gan Lywodraeth Lafur Cymru ar ben difaterwch Llywodraeth Doriaidd y DG.”