Mwy o Newyddion
“Hen bryd symyd ymlaen gyda’r achos fusnes dros Ysgol Feddygol ym Mangor”: Sian Gwenllian
Mae AC Plaid Cymru dros Arfon, Sian Gwenllian, wedi dwyn pwysau unwaith yn rhagor ar Lywodraeth Cymru i symyd ymlaen gyda’r achos fusnes dros Ysgol Feddygol ym Mangor, er mwyn mynd peth o’r ffordd at ateb y prinder mewn doctoriaid a meddygon teulu drwy Gymru.
Yn y Senedd fe ofynnodd i Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet ar Iechyd, i ymrwymo i gymryd rhan llawn a chanolog yn y broses sydd ei hangen er mwyn gwireddu’r cynllun.
Dywedodd Sian Gwenllian bod hyfforddi a recriwtio mwy o staff meddygol yn hanfodol i sicrhau cynaladwyedd gwasanaethau’r NHS, a bod Plaid Cymru wedi gosod y seiliau i’r perwyl hwn yn eu cytundeb a’r Llywodraeth.
Meddai: “Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones eisoes wedi cytuno i ystyried achos fusnes ar gyfer Ysgol Feddygol newydd ym Mangor.
"Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu’n hir dros gael Ysgol Feddygol ym Mangor er mwyn sicrhau cynaladwyaeth ein gwasanaethau ysbyty, ac rydw i’n falch iawn o gael cyfle arall i godi’r mater gyda Llywodraeth Cymru yr wythnos hon.
“Mae cytundeb Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru yn gosod y seiliau i Ysgol Feddygol ym Mangor ac felly’n sicrhau ymrwymiad dros hyfforddi a recriwtio rhagor o ddoctoriaid a meddygon teulu yng Nghymru, a byddaf yn dal ati i bwyso ar y llywodraeth Lafur i weithredu’r nod yma
“Rydym yn gwybod bod gan Gymru lai o feddygon y pen nag yn y rhan fwyaf o Ewrop, ac mae’r sefyllfa yng ngogledd Cymru’n waeth byth gyda 47% o ddoctoriaid yn Nwyfor a Gwynedd yn tynnu at oed ymddeol.
"Mae’n hen bryd rhoi blaenoriaeth i’r achos fusnes a gwneud Ysgol Feddygol ym Mangor yn realiti, fel rhan o gynllun hyfforddiant drwy Gymru.”
Derbyniodd Sian Gwenllian gefnogaeth Betsan Gruffydd, myfyrwraig o Gaernarfon sydd yn astudio meddygaeth yng Ngholeg Queens, Belffast.
“Rydw i’n cefnogi amcanion Plaid Cymru i ddod ag Ysgol Feddygol i Ogledd Cymru, a rwy’n gwybod y byddai nifer o’n ffrindiau wedi gwerthfawrogi cael yr opsiwn i astudio yn agosach at adra.
"Mae’n wir i ddeud bod pobol ifanc yn hoff o grwydro, ond dydi hynny ddim yn wir am bawb chwaith, ac yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, nid pawb fedr fforddio astudio’n bell o adra,” meddai Betsan Gruffydd.
Mae Plaid Cymru wedi bod o’r farn ers tro bod yna achos fusnas gref dros sefydlu Ysgol Feddygol mewn partneriaeth a’r Brifysgol ym Mangor, gan godi proffil feddygol yr ardal ac fel cymorth wrth ddenu gweithwyr blaengar ym maes meddygaeth, gan gadw gafael ar raddedigion lleol sydd yn chwilio am waith yn agosach at adref.
Meddai Betsan Gruffydd: “Mae’n wir dweud bod pobol ifanc yn aml yn dewis setlo yn yr ardal ble maen nhw wedi mynd i astudio – maen nhw’n gwneud ffrindiau yno, ella’n cwrdd a phartner, ac maen nhw’n medru aros yno am gyfnod hir os nad am byth.
"Petai yna Ysgol Feddygol ym Mangor mi fyddai’n sicr yn denu’r rhai sydd am aros yn agosach at adra, ac mi fyddai’n opsiwn fforddiadwy i’r rhai sy’n methu fforddio mynd rhy bell.
"Mae gen i ffrindiau sydd wedi eu magu mewn ardaloedd gwledig a fyddai wedi hoffi medru astudio a gwneud eu profiad gwaith mewn ardal wledig – dydyn nhw ddim isho mynd i Gaerdydd neu Lerpwl.
"Petai’r dewis ganddyn nhw i astudio yn y Gogledd mae’n bosib iawn y byddan nhw wedi dewis setlo yma a chael gwaith yn Ysbyty Gwynedd neu Ysbyty Glan Clwyd.
"Dwi wir yn gobeithio y bydd Plaid Cymru’n llwyddo i ddod ag Ysgol Feddygol i Fangor.”
Llun: Sian Gwenllian