Mwy o Newyddion
Cysgu dan y sêr gydag RSPB Cymru
Mis Gorffennaf yma mae oedolion a phlant fel ei gilydd yn cael eu gwahodd i fwynhau haf bythgofiadwy, wrth i RSPB Cymru ei hannog unwaith eto i dreulio noson yn y gwyllt fel rhan o’i fenter flynyddol, Cysgu Dan y Sêr.
Mae’r elusen yn herio plant a’u teuluoedd ledled Cymru i fynd ar antur ar eu stepen drws, gan fentro i’r gwyllt a darganfod beth sy’n digwydd i’n bywyd gwyllt rhyfeddol ni yng nghanol y nos.
Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, mae gwersyllwyr yn cael eu hannog i gysgu tu allan yn eu gerddi neu mewn parciau lleol er mwyn dod yn agos at natur a darganfod pa greaduriaid sy’n rhannu eu cartref min nos.
Mae Cysgu Dan y Sêr yn cael ei gynnal yn ystod penwythnos olaf mis Gorffennaf, a gyda’r machlud hwyr a’r codiad haul cynnar, bydd digon o oriau llawn hwyl i bobl o bob oed dreulio noson unigryw ym myd natur.
Yn ogystal â gwersylla adre, mae digwyddiadau Cysgu Dan y Sêr yn cael eu cynnal yng ngwarchodfeydd natur RSPB Cymru ledled y wlad.
Boed yng nghoetir heddychlon RSPB Ynys-hir neu gorsydd rhyfeddol RSPB Conwy ac RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd, mae antur wyllt i bawb – o syllu ar y sêr i rwydo pyllau ac adrodd straeon o amgylch y tân.
Mae cynnig arbennig iawn i wersyllwyr Cysgu Dan y Sêr eleni hefyd, sef gwahoddiad i fentro i Ynys Echni oddi ar arfordir Caerdydd.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd yn trefnu i ymwelwyr ddarganfod trysorau byd natur a mwynhau trip gwersylla cwbl unigryw gyda’r teulu.
Mae’r ynys hon yng nghanol Aber Afon Hafren a bydd y gwersyllwyr yn cael mwynhau golygfeydd hyfryd o diroedd pell.
Mae cyfle iddyn nhw chwilio am drychfilod, cymryd rhan mewn saffari traeth a syrthio’i gysgu yn gwrando ar y tonnau’n torri ar y traeth.
Dywedodd Eleri Wynne, Swyddog Cyfathrebu RSPB Cymru: “Bydd cannoedd o bobl ar hyd a lled Cymru’n mynd ar antur ac yn dod yn nes at natur yn ein pedwerydd digwyddiad Cysgu Dan y Sêr.
"Wrth i ni fynd i’r gwely ac wrth i’n pen ni gyffwrdd â’r gobennydd, y tu allan i’r ffenest mae byd natur yn gwbl effro.
"Felly yn hytrach na chysgu dan do’r haf yma, rydyn ni eisiau annog teuluoedd i fwynhau’r bywyd gwyllt gwych o’u cwmpas ac ymuno a’r trychfilod a’r gwyfynod am y noson.”
Boed yn glampio mewn pebyll neu garafanau, yn cysgu ymysg natur mewn den neu gysgodfa, neu’n cysgu yn y gwyllt yn yr awyr agored, bydd Cysgu Dan y Sêr yn brofiad cofiadwy i’r teulu cyfan fis Gorffennaf yma.
I gymryd rhan a cofrestru am becyn Cysgu Dan y Sêr am ddim ewch i www.rspb.org.uk/sleepout.
Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael gwahoddiad i rannu eu profiadau ar y wefan ac ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #CysguDanYSêr neu #BigWildSleepout.