Mwy o Newyddion
Croeso i fyfyrwyr a staff o’r Undeb Ewropeaidd ym Mhrifysgol Abertawe - Kirsty Williams
Ar ei hymweliad cyntaf â'r ddinas ers cael ei phenodi'n Ysgrifennydd Addysg, dywedodd Kirsty Williams fod croeso i fyfyrwyr a staff o'r Undeb Ewropeaidd ym Mhrifysgol Abertawe heddiw.
Wrth deithio o gwmpas campws £450 miliwn Gwyddoniaeth ac Arloesi'r Brifysgol, fe wnaeth hi ymateb i’r pryderon yn sgil y refferendwm gan fynd ati i ddweud bod pobl o wledydd yr Undeb Ewropeaidd sy’n astudio mewn prifysgolion yng Nghymru yn parhau i fod yn aelodau gwerthfawr ac angenrheidiol o’r gymuned addysg.
Canmolodd yr Ysgrifennydd Addysg y staff o wledydd yr Undeb Ewropeaidd sy’n hanfodol i’r sector addysg uwch yng Nghymru hefyd.
Dywedodd Kirsty Williams: "Gall y ddinas ymfalchïo yn llwyddiant Prifysgol Abertawe, wrth iddi ennill buddsoddiad gan yr UE i ehangu ac iddi ddenu myfyrwyr a staff o bedwar ban byd.
"Rydyn ni'n wynebu ansicrwydd a phryder nawr ar ôl y refferendwm a gynhaliwyd yn ddiweddar.
Dwi eisiau dweud yn glir bod croeso i fyfyrwyr a staff o wledydd yr Undeb Ewropeaidd ym Mhrifysgol Abertawe o hyd, ac yn wir mae croeso iddyn nhw yn holl brifysgolion Cymru.
I’r rhai hynny sydd yma eisoes yn astudio, ac i’r rhai hynny sy’n cynllunio i ddod yma, mae croeso i chi yma o hyd, mae ein sefydliadau dysg yma i chi o hyd.
"Mae'r traddodiad hir a balch o fyfyrwyr o Ewrop yn dod i Abertawe wedi meithrin cysylltiadau pwysig â llawer o wledydd i Gymru.
"Mae lle arbennig yng nghalonnau miloedd o bobl i'r ddinas hon ar ôl iddyn nhw fod yn astudio yma.
"Bydd ein gwlad yn parhau i fod yn lle goddefgar a diogel lle caiff pobl o unrhyw genedl ddilyn eu huchelgais academaidd.
"Gadewch i mi ddweud yn gwbl glir, nid ydym yn barod i oddef unrhyw fath o gam-drin hiliol, boed ar gampws neu yn y cymunedau ehangach y mae ein prifysgolion yn rhan ohonynt.
"Bydd prifysgolion Cymru yn parhau i recriwtio ac addysgu myfyrwyr o'r UE ac o wledydd ar draws y byd.
"Mae ein prifysgolion yn hanfodol i’n dyfodol cymdeithasol ac economaidd ac maen nhw'n ffynnu ar yr amrywiaeth ymhlith y bobl sy'n dod iddyn nhw.
"Mae Llywodraeth Cymru'n benderfynol o ddiogelu enw da Cymru fel lle cyfeillgar a goddefgar i astudio ac i wneud gwaith ymchwil o'r radd flaenaf. Beth bynnag fo goblygiadau hirdymor y bleidlais, rydyn ni’n parhau i fod yn genedl groesawgar sy’n edrych tuag allan ac yn genedl sydd wedi ymroi i rannu gwybodaeth ar draws ffiniau cenedlaethol.”
Dywedodd yr Athro Richard B. Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe: "Byth ers ei sefydlu ym 1920, mae'r Brifysgol flaengar hon wedi profi nad oes arni ofn na her nac uchelgais.
"Bu'r Brifysgol yn gymuned sy'n edrych tuag allan ac sy'n gwerthfawrogi ac yn dathlu ei chysylltiadau ag Ewrop a thu hwnt - a bydd yn parhau i wneud hynny.
"Rhestrwyd Prifysgol Abertawe ymhlith y 200 prifysgol 'mwyaf rhyngwladol' yn atodiad Addysg Uwch y Times. Yn y cyfnod ansicr a heriol hwn, mae gennyf hyder yng ngallu'r Brifysgol hon i ymateb i heriau a'u troi'n gyfleoedd.
"Mae gan Abertawe fwy o gysylltiadau cadarn o ansawdd uchel o ran ymchwil, rhaglenni ar y cyd a threfniadau symud cyfatebol gyda Phrifysgolion ar draws yr UE a ledled y byd na sydd gan y rhan fwyaf o brifysgolion y DU, ac mae'r cysylltiadau hynny'n tyfu.
"Mae gan y Brifysgol hanes hir a llwyddiannus o ran gweithio gyda phartneriaid strategol - ac mae llawer o'r rheini ar frig tablau cyrhaeddiad rhyngwladol.
"Bydd y partneriaethau hyn yn cael eu hehangu nawr, yn enwedig yng Ngogledd America, y Dwyrain Canol a'r Dwyrain Pell, Tsieina a Korea, fel bod Abertawe nid yn unig yn dod drwy'r storm yn sgil Brexit, ond yn defnyddio'i chysylltiadau byd-eang i helpu i lunio Cymru ar ôl gadael yr UE.
"Mae'n bleser cael croesawu'r Ysgrifennydd Addysg i Abertawe ac i'n campws godidog, newydd yn y Bae ar ei hymweliad cyntaf â'r ddinas ers ei phenodi.
"Byddwn yn ategu neges yr Ysgrifennydd yn gryf, sef bod myfyrwyr a staff o wledydd yr UE yn cael eu gwerthfawrogi a'u croesawu'n gynnes gan Brifysgol Abertawe a chan Gymru. Rydyn ni eich eisiau yma."