Mwy o Newyddion
Plant ysgolion Gwynedd yn cael blas ar Ewrop a phêl-droed
Daeth 144 o blant o 24 ysgol gynradd yng Ngwynedd at ei gilydd i glwb pêl-droed Bangor yn ddiweddar i gymryd rhan mewn deuddydd o weithgareddau Ewropeaidd gan gynnwys cystadleuaeth pêl-droed ar y Playstation.
Cyflwynydd BBC Radio Cymru Geraint Iwan oedd yn arwain y digwyddiad, o’r enw Gemau Ewrop, digwydd a drefnwyd gan Cwmni Da, Cyngor Gwynedd, Siarter Iaith ac S4C.
Roedd pob un o’r 24 ysgol yn cynrychioli gwlad Ewropeaidd wahanol a daeth y disgyblion i’r stadiwm yn lliwiau eu gwlad fabwysiedig.
Ar ddiwrnod cyntaf y digwyddiad, dysgodd y disgyblion anthem genedlaethol eu gwlad, yn ogystal â blasu sawl pryd bwyd Ewropeaidd gwahanol a chreu murlun enfawr yn eisteddle’r stadiwm. Cafodd y digwyddiad lliwgar yma ei ffilmio ar gyfer rhaglen S4C, TAG.
Dychwelodd y disgyblion ar yr ail ddiwrnod i frwydro am y darian Gemau Ewrop mewn cystadleuaeth pêl-droed Playstation, a drefnwyd gan Cwmni Da ac S4C.
Heriodd timau o ferched a bechgyn ei gilydd ar y gêm PES 2016, gêm sy’n cynnwys llun o Gareth Bale ar glawr iaith Cymraeg. Ffilmiwyd ffrwd o bob un o’r 51 gêm ar chwe gliniadur a dyfais recordio, ac mae rhaglen uchafbwyntiau o’r bencampwriaeth wedi ei ffilmio, gyda Geraint Iwan yn cyflwyno.
Dywedodd Phil Stead, cyfarwyddwr digidol Cwmni Da: “Roedd y twrnamaint yn llwyddiant mawr ac fe gafodd y 72 chwaraewr ddiwrnod i’w gofio.
“Mae’r digwyddiadau yma’n gyffrous iawn. Rydym wedi bod yn rhedeg Gemtiwb, ein sesiynau gemau Cymraeg ers blwyddyn, ac roedd y plant i gyd eisiau i ni drefnu twrnamaint fel hyn.
“Mae’n bwysig iawn dangos i blant fod Cymraeg yn iaith fodern sy’n gallu cael ei defnyddio ar gyfer Youtube, gwefannau cymdeithasol a gemau.”
Cewch wylio rhaglen uchafbwyntiau'r gystadleuaeth ar: http://gemtiwb.cymru/uchafbwyntiau-gemau-ewrop/