Mwy o Newyddion
Simon Thomas - Llafur yn cynllwynio i dynnu arian oddi wrth ffermydd
Mae Llafur yn cynllwynio i ddefnyddio Brexit fel cyfle i dorri’r arian sy’n mynd i ardaloedd gwledig Cymru, yn ôl Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru Simon Thomas.
Yn ôl Mr Thomas fe wnaeth AS Llafur adael i’w fwgwd lithro wrth ofyn cwestiwn yn San Steffan.
Yn San Steffan ddoe fe wnaeth AS Llafur dros Wrecsam Ian Lucas ofyn: “Ydi’r Gweinidog yn cytuno fod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig cyfle euraidd i asesu’r lefel o gymorthdaliadau sy’n cael ei dalu i ffermio yng Nghymru i weld os all yr arian gael ei wario yn fwy effeithiol ac effeithlon mewn ardaloedd eraill?”
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru Simon Thomas: “Cyn y refferendwm fe wnaed addewid i bobl Cymru na fyddai unrhyw arian yn cael ei golli o adael yr Undeb Ewropeaidd.
"Ers hynny mae Plaid Cymru wedi dweud y gwnawn ni bopeth i ddiogelu’r arian mae Cymru’n ei dderbyn, ond mae Llafur yn gweld eu cyfle i gael eu bachau budron ar arian Cymru.
“Rydym yn gwybod fod 80% o ffermydd yn ddibynnol ar arian Ewropeaidd i gefnogi eu busnesau ond mae Llafur yn gwrthod gwneud yr hyn sy’n iawn i bobl Cymru.
“Mae Llafur wir wedi gadael i’w mwgwd lithro. Tra mae Plaid Cymru yn canolbwyntio ar amddiffyn buddiannau cymunedau Cymru, mae Llafur yn cynllwynio i dynnu arian oddi wrthynt.”