Mwy o Newyddion
Cafwyd addewid o fwy o arian i'r NHS: bydd Plaid Cymru yn brwydro drosto
Cafodd pobl Cymru addewid y byddai gadael yr UE yn golygu mwy o arian i'r Gwasanaeth Iechyd, ac rhaid cadw at yr addewid hwnnw, mae Leanne Wood arweinydd Plaid Cymru wedi rhybuddio.
Yn ystod dadl yn y Cynulliad, ategodd Leanne Wood addewid ei phlaid i ddwyn Llywodraeth y DG i gyfrif am addewidion y pleidleisiodd pobl arnynt yn ystod ymgyrch y refferendwm.
Dywedodd Leanne Wood fod cymunedau ledled Cymru wedi derbyn addewid y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu £490 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol i'r NHS bob blwyddyn, ac y byddai Plaid Cymru yn parhau i frwydro nes y bydd yr arian wedi ei sicrhau.
Archwiliodd dadl Plaid Cymru hefyd y rhesymau y tu ol i bleidlais Brexit y refferendwm yng Nghymru, gan dynnu sylw at y teimlad fod pobl wedi eu gadael ar y cyrion mewn rhannau o Gymru ble fo cyfleoedd swyddi yn brin.
Cyfeiriodd y blaid at y ffaith fod gan Lywodraethau Cymreig o amryw liwiau bwerau cyfyngidig iawn i adfywio'r economi, gan alw am newid hyn.
Dywedodd Leanne Wood: "Dywedwyd wrth gymunedau yng Nghymru a ledled y Deyrnas Gyfunol y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn arbed arian.
"Gwnaed addewid y byddai Cymru yn derbyn £490m yn ychwanegol bob blwyddyn.
"Gwnaed yr addewid hwn gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ac rydym yn bwriadu parhau i dynnu sylw at hyn nes y bydd yr arian wedi ei sicrhau.
"Nid am ein bod yn ymbil am arian gan y wladwriaeth Brydeinig. Ond am fod y cymunedau hynny wedi pleidleisio dros yr arian hwnnw, dros eu Gwasanaeth Iechyd, ac i adfer y cyfleusterau hynny sydd wedi diflannu."