Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Gorffennaf 2016

Cofio Gwynfor a 1966 - digwyddiad i ddathlu trobwynt yn hanes Cymru

Bydd torf fawr o bobl o bob rhan o Gymru yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn yma i goffáu buddugoliaeth hanesyddol Gwynfor Evans fel Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru union 50 mlynedd yn ôl.

Roedd isetholiad Caerfyrddin ar 14 Gorffennaf, 1966 yn ddaeargryn gwleidyddol.

Fe newidiwyd wyneb gwleidyddiaeth Cymru a Phrydain, gan i’r SNP ennill sedd yn yr Alban yn fuan wedyn.

Fe’i gwelir gan lawer fel y sbarc gwleidyddol a daniodd y daith hir i ddatganoli yn y ddwy wlad.

Bydd plac ‘bas-relief’ mawr, a grëwyd gan y cerflunydd Cymreig blaenllaw Roger Andrews (fu’n gyfrifol am y cerflun o Syr Tasker Watkins VC tu allan i Stadiwm Principality), yn cael ei dadorchuddio y tu allan i Neuadd y Dref yng nghanol Caerfyrddin.

"Ni fyddai Cynulliad yng Nghaerdydd heddiw oni bai am Gwynfor Evans. Mae'r gofeb yn dathlu’r hyn gyflawnodd y dyn rhyfeddol hwn," meddai Peter Hughes Griffiths o Ymddiriedolaeth Gwynfor Evans, a drefnodd y gofeb.

Wedi’r seremoni dadorchuddio, fe fydd achlysur yng nghapel Heol Awst. Ymhlith y cyfranwyr bydd Dafydd Iwan, Dafydd Wigley, Adam Price AC a Jonathan Edwards AS – a fydd yn darllen rhannau o araith gyntaf Gwynfor i Dŷ'r Cyffredin ym 1966.

PNAWN SADWRN YMA, 16 GORFFENNAF

2.00  Dadorchuddio Cofeb yn sgwâr Caerfyrddin (ger y Guildhall).

2.45  Achlysur yng nghapel Heol Awst.

Rhannu |