Mwy o Newyddion
Gwynedd yn gofyn barn y bobl tros haneru nifer yr ysgolion uwchradd
MAE galwadau’n cael eu gwneud i’r awdurdod lleol i roi’r gorau i gynlluniau i ad-drefnu system addysg Gwynedd a allai weld 14 o ysgolion uwchradd yn lleihau i chwech neu saith.
Ddydd Mawrth trafododd CabiMae Cyngor Gwynedd am ymgynghori a’r trethdalwyr ar y cynnig o haneru nifer yr ysgolion uwchradd yn y sir - o 14 i chwech neu saith.
Fe bleidleisiodd cynghorwyr ddydd Mawrth yr wythnos hon (Gorffennaf 12) o blaid gofyn am farn y cyhoedd.
Ar hyn o bryd, does dim sôn y bydd ysgolion yn cau, yn hytrach, bydd rhai yn uno a dod dan reolaeth un pennaeth.
Mae disgwyl y bydd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Gareth Thomas, yn adrodd yn ôl i’r Cyngor erbyn mis Tachwedd.
Mae’r Cyngor yn dweud ei fod yn cael trafferth recriwtio penaethiaid ysgolion, yn enwedig yn ardaloedd gwledig y sir, gan fod pwysau ar y penaethiaid i ddysgu yn ogystal â rheoli ac arwain.
Mae pryderon wedi codi dros broblemau recriwtio mewn ysgolion cynradd hefyd, gydag arbenigwyr addysg yn argymell creu cyfres o ysgolion cydweithredol.
Bydd yr ymgynghoriad, fydd yn holi Llywodraethwyr ac ysgolion, yn canolbwyntio ar gyfres o egwyddorion fydd yn sail i gyfundrefn addysg newydd yng Ngwynedd dan yr enw ‘Ysgol Gwynedd’.
Daw hyn o adroddiad dau ymgynghorydd addysg ar y sefyllfa, sy’n dweud nad yw’r sefyllfa bresennol yn ddigon da.
Mae Alwyn Gruffydd, cynghorydd Tremadog, sydd wedi ymgyrchu gyda’i blaid, Llais Gwynedd, dros nifer o flynyddoedd i gadw ysgolion yng Ngwynedd ar agor, yn dweud na ddylai unrhyw ad-drefnu cael ei wneud i addysg.
Dywedodd: “Mae’r cyngor newydd wario miliynau ar ysgolion newydd yn Y Bala, Dolgellau a Thywyn ac yn awr maent yn dod i fyny gyda mwy o syniadau ar gyfer ad-drefnu? Mae’n wallgofrwydd! “
Ychwanegodd cynghorydd tref Porthmadog, Jason Humphreys, sydd hefyd yn llywodraethwr yn Ysgol Eifionydd: “Bwriad y Cabinet yw cynnal trafodaethau gyda llywodraethwyr, athrawon a phwyllgor y cyngor, er nad y cyngor llawn.
“Fy ofn i yw beth fydd yn digwydd yw y bydd rhieni, disgyblion a chymunedau yn cael eu cyflwyno gyda ‘fait accompli’.
“Rhain yw’r rhanddeiliaid a ddylai fod ar flaen y gad ar unrhyw newid.
“Os na allant ddarbwyllo’r rhieni i’r doethineb o droi eu hysgol i mewn i safle heb bennaeth, neu argyhoeddi cyfnewidiadau penodol i gymunedau daflu eu cyfan i mewn gyda’i gilydd, yna bydd yn arwain at anfodlonrwydd ofnadwy.”
Bydd Cyngor Gwynedd yn awr yn ymgynghori gyda llywodraethwyr, ysgolion a’r aelodau etholedig dros y misoedd nesaf cyn cyflwyno adroddiad i’r Cabinet ym mis Tachwedd.
Dywedodd y Cyng Gareth Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros addysg: “Does dim cwestiynu’r gwaith caled ac ymroddiad staff ysgolion Gwynedd.
“Fodd bynnag, er mwyn cyflawni’r gorau mae’n rhaid i ni yn awr yn mynd i’r afael â’r anawsterau difrifol iawn wrth recriwtio penaethiaid mewn ardaloedd gwledig a’r ffaith nad yw rhai penaethiaid yn gallu ymrwymo digon o amser i ddarparu arweinyddiaeth effeithiol oherwydd eu hymrwymiadau addysgu.”