Mwy o Newyddion
Ysgolion Pentrefol: Strategaeth gadarnhaol newydd yr Ysgrifennydd Addysg
MAE ymgyrchwyr iaith wedi’u calonogi gan agwedd gadarnhaol yr Ysgrifennydd Addysg newydd at ddatblygu ysgolion pentrefol Cymraeg.
Yn y Senedd wythnos yma, dywedodd Kirsty Williams AC ei bod yn edrych i ffocysu llawer iawn mwy ar ffederaleiddio ysgolion yn lle eu cau gan ddweud y byddai’r polisi yn gwella recriwtio a chodi safonau.
Dywedodd hefyd y bydd strategaeth genedlaethol sy’n canolbwyntio ar ysgolion bach a gwledig.
Wrth groesawu’r polisi newydd, dywed Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “O’r diwedd y mae Gweinidog Addysg sy’n deall cymunedau gwledig a phwysigrwydd allweddol ysgolion pentrefol i sicrhau eu parhad.
“Galwn am agwedd cadarnhaol newydd i ddatblygu ysgolion pentrefol Cymraeg fel pwerdai i adfywio’r cymunedau, ac mae ymyrraeth Kirsty Williams yn amserol iawn.
“Yr wythnos hon y mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu ymgynghori am ddyfodol ysgolion y sir, a chroesawn drafodaeth gyhoeddus agored os ydyw yng nghyd-destun sut i gryfhau’r ysgolion trwy gydweithio mewn ffederasiynau a thrwy wasanaethu eu cymunedau.
“Ni ddylai ‘ymgynghori’ fod yn broses ffurfiol negyddol o geisio ffyrdd i gau ysgolion yn unig.
“Ein pryder yw fod Cyngor Ceredigion yn ymgynghori’n negyddol yn Nyffryn Aeron gan geisio gwerthu ei gynllun ei hun o gau ysgolion, yn hytrach na bod ymarferiad onest o geisio cynigion cadarnhaol.”
Dywed Sioned Elin, Cadeirydd Rhanbarth Sir Gaerfyrddin o’r Gymdeithas: “Ar union ddeng mlwyddiant cau Ysgol Mynyddcerrig, y mae bygythiad i un o’r ysgolion eraill y mae plant Mynyddcerrig wedi cael eu hanfon ati, sef Bancffosfelen.
“Ond mae’r llywodraethwyr a’r gymuned leol wedi dangos fod atebion cadarnhaol ar gael gan gynnig sefydlu Ymddiriedolaeth Gymunedol i berchnogi a datblygu adeilad yr ysgol, a’r Awdurdod Lleol yn rhentu rhan o’r adeilad ar gyfer ysgol.”
Ychwanegodd Ms Elin, sydd â phlentyn ei hun yn Ysgol Bancffosfelen: “Gwahoddwn Kirsty Williams i ddod i Fancffosfelen i weld y sefyllfa ac i drafod y cynllun cyffrous gyda’r gymuned leol.”