Mwy o Newyddion
Record pleidleisio Owen Smith yn ‘bradychu’ buddiannau cenedlaethol Cymru
Mae Jonathan Edwards AS Plaid Cymru heddiw wedi rhybuddio pobl Cymru rhag cael eu denu gan y syniad o arweinydd Cymreig i’r Blaid Lafur, gan dynnu sylw at record Owen Smith o fethu â gwarchod buddiannau cenedlaethol Cymru dro ar ôl tro.
Daeth sylwadau Jonathan Edwards wrth i’r AS dros Bontypridd gyhoeddi ei fwriad i ymuno â’r ras i fod yn arweinydd nesaf Llafur wrth i ryfel cartref y blaid ddwysau.
Ychwanegodd fod record pleidleisio Owen Smith yn dangos fod ganddo fwy o ddiddordeb mewn rhoi hwb i’w yrfa ei hun yn San Steffan na gwneud yr hyn sydd orau i’r cymunedau Cymreig y mae wedi ei ethol i’w cynrychioli.
Dywedodd Jonathan Edwards AS Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: “Bydd y rhai sy’n gobeithio fod y posibilrwydd o AS Cymreig yn ymuno â’r ras i arwain Llafur yn newyddion da i’n cenedl yn cael eu siomi’n fawr wrth edrych ar record pleidleisio Owen Smith.
“O fethu a gwrthwynebu toriadau’r Ceidwadwyr i wrthod rhoi rheolaeth i Gymru dros feysydd allweddol megis ynni a phlismona, mae’r AS Llafur dros Bontypridd wedi eistedd ar ei ddwylo yn ystod pleidleisiau hanfodol di-ri.
“Drwy roi ei obeithion gyrfaol yn San Steffan cyn buddiannau ein cymunedau y mae wedi ei ethol i’w cynrychioli mae Owen Smith yn bradychu etholwyr Cymru.
“Gyda’r bennod ddiweddaraf hon yn hanes hir a diflas tranc Llafur yn dwysau’r rhyfel cartref, mae’n gwbl eglur nad yw’r blaid yn gymwys i lywodraethu.
“Mewn cyferbyniad clir, mae Plaid Cymru’n cynnig arweinyddiaeth gref a’r sicrhad mae pobl ei angen yn y cyfnod cythryblus mewn gwleidyddiaeth.
“Tra bod gwleidyddion Llafur yn parhau i ffraeo ymysg ei gilydd, bydd cynrychiolwyr Plaid Cymru yn parhau i wneud yr hyn maent wedi ei wneud erioed – brwydro’n ddiflino dros ein cenedl a’n cymunedau.”
Llun: Jonathan Edwards