Mwy o Newyddion
Galw am fwy o gryfder i'r Gymraeg mewn prosesau cynllunio
Ym Mwrdd Cyngor Gwynedd ddydd Mawrth, galwodd grŵp Plaid Cymru yng Ngwynedd ar Lywodraeth y Cynulliad i gymryd safbwynt llawer mwy cadarn ar bolisi cynllunio Cymru wrth ystyried effaith datblygiadau ar yr iaith Gymraeg o fewn cymunedau. Mae TAN 20, Nodyn Cyngor Technegol 20 Cynllunio a’r Iaith Gymraeg, yn cael ei adolygu gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd.
Galwodd grŵp Plaid Cymru am bolisi TAN 20 llawer cryfach gan osod arweiniad clir ar faterion fel: sut y dylid ymgymryd ag Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg mewn ardaloedd a sut y mae awdurdodau lleol yn penderfynu os yw’r iaith Gymraeg yn rhan arwyddocaol o wneuthuriad cymdeithasol ardal wrth drafod ceisiadau cynllunio.
Yn ôl Cynghorydd Plaid Cymru Gareth Roberts: “Ar un llaw rydym yn croesawu’r cyfle i adolygu’r polisi yma gan Lywodraeth Cymru, ond ar y llaw arall dyw’r ddogfen ymgynghorol ddim yn mynd ddigon pell. Dyla ni fynd nôl i’r dechrau a sefydlu gweithgor gydag awdurdodau cynllunio lleol a rhan-ddeiliaid eraill i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael y parch a’r sylw priodol fel rhan o’r broses gynllunio. Mae’n sylfaenol i’r broses, ac mae Llywodraeth Cymru wedi colli cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn o fewn yr ymgynghoriad hwn.”
Yn ôl Y Cynghorydd Gareth Roberts sydd hefyd yn Arweinydd Portffolio Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Fel Cyngor, yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cydweithio â Pharc Cenedlaethol Eryri a chynghorau eraill ar fethodoleg i asesu effaith ceisiadau cynllunio ar yr iaith Gymraeg. Mae’r fethodoleg wedi ei defnyddio ar gyfer ystyried ceisiadau cynllunio trwy ganllaw Cynllunio Atodol ar y cyd, ac mae copi wedi ei anfon i Lywodraeth Cymru beth amser yn ôl, ond nid ydym wedi derbyn unrhyw ymateb. Mae hyn yn siomedig iawn.”
Yn ôl Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yng Ngwynedd, Y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Rydym am argymell i’r Gweinidog ei fod yn sefydlu gweithgor all gomisiynu a threfnu gwaith ymchwil i weld beth yw effaith datblygiadau ar yr iaith Gymraeg o fewn cymunedau. Gall hyn hefyd gynnwys astudiaethau achos, tebyg i’r rhai rydym wedi gweithio arnynt yn y gorffennol gyda Chymdeithas Tai Eryri.
“Fel sir, mae gan Wynedd nifer o gymunedau lle mae dros 85% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, ac mae ardaloedd ym Môn a Chonwy hefyd â chanrannau uchel o siaradwyr Cymraeg. Dyma un darn o’r jig-so rydym angen ei sicrhau er mwyn cynaladwyedd a hirhoedledd yr iaith Gymraeg yn yr ardaloedd yma.” Meddai’r Cynghorydd Edwards.
Bydd ymateb llawn a manwl i’r ddogfen ymgynghorol yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru yn y dyddiau nesaf.