Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Gorffennaf 2016

AS yn beirniadu y Weriniaeth Gyfiawnder am ddangos dirmyg llwyr tuag at y Gymraeg

Mae Llefarydd Plaid Cymru ar y Swyddfa Gartref a Materion Cyfiawnder, Liz Saville Roberts AS wedi beirniadu y Weinyddiaeth Gyfiawnder am ddangos ‘dirmyg llwyr’ i anghenion unigryw y system gyfiawnder yng Nghymru ar ôl i hysbyseb am swyddi yn arch-garchar newydd Wrecsam beidio a chysidro’r Gymraeg fel bod yn angenrheidiol.

Mae’r Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd, sydd eisioes wedi cwestiynu sut fydd y carchar yn diwallu anghenion Cymru, wedi cyhuddo’r Llywodraeth o drin y Gymraeg fel ‘ychwanegiad dewisiol’.

Mewn ymateb i gwestiwn gan Liz Saville Roberts AS, dywedodd Andrew Selous o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder nad oedd y gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried fel rhinwedd ar gyfer swyddi yn HMP Berwyn.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Dyma enghraifft arall o ddiffyg llwyr Llywodraeth San Steffan i ddeallt anghenion ieithyddol penodol pobl Cymru.

“Mae'n darparu tystiolaeth bellach bod gofynion unigryw Cymru o ran darpariaeth cyfiawnder yn cael ei danseilio gan ddeddfwrfa bell heb unrhyw syniad go iawn o rôl bwysig yr iaith Gymraeg ym mywyd Cymru.

“Sut gall y Weinyddiaeth Gyfiawnder gyfiawnhau hysbysebu swyddi mewn carchar yng Nghymru, a fydd yn ddi-os yn gartref i garcharorion sy'n siarad Cymraeg, heb fod angen i’r staff gael gafael ar yr iaith?

"Ni ddylai'r Gymraeg gael ei thrin fel rhywbeth ychwanegol a dewisol.

“Rwy'n galw ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder i dynnu’r hysbysebion swyddi hyn yn ôl ac ailystyried eu penderfyniad i hysbysebu swyddi yng Ngharchar Berwyn heb roi ystyriaeth briodol i'r iaith Gymraeg.

“Byddaf hefyd yn disgwyl i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder bennu pa gyfran o'i staff y disgwylir iddynt feddu ar sgiliau iaith Gymraeg yn yr unig garchar yng Ngogledd Cymru.

“Mae'r ymateb ddiystyriol yma at sgiliau iaith Gymraeg yn torri Cynllun Iaith Gymraeg y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr, a byddaf yn codi'r mater hwn gyda gweinidogion y llywodraeth a Meri Huws , Comisiynydd y Gymraeg.”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones: “Nid yw hyn ddigon da.

"Dylai’r Gwasanaeth Rheoli Troseddwyr Cenedlaethol (NOMS) fod wedi adnabod nifer o swyddi Cymraeg hanfodol o fewn y carchar i gwrdd ag anghenion y 700 + o garcharorion o Gymru a fydd wedi eu carcharu yma.

“Mae ateb y Gweinidog yn dangos dirmyg arferol y Llywodraeth tuag at yr iaith Gymraeg, sy'n gwbl annerbyniol.”

Rhannu |