Mwy o Newyddion
Grace yn dathlu ei phen-blwydd yn 101 oed mewn steil ar ôl treulio 60 mlynedd fel nyrs ymroddedig
Mae gwraig sydd wedi treulio ei bywyd yn gofalu am eraill ac yn gweithio fel nyrs nes yr oedd yn 75 oed wedi dathlu ei phen-blwydd yn 101 oed.
Bu Grace Jones yn dathlu ei charreg filltir ryfeddol gyda’i theulu a’i gofalwyr, sydd wedi dod yn ffrindiau iddi yn Bryn Seiont Newydd, y ganolfan rhagoriaeth dementia gwerth saith miliwn o bunnoedd yng Nghaernarfon.
Wedi’i geni ar Ynys Môn yn ystod teyrnasiad Brenin George V, pan oedd HH Asquith yn Brif Weinidog ar Brydain Fawr ac roedd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei anterth, dechreuodd Grace ar ei galwedigaeth fel nyrs pan oedd yn ei harddegau, ac aeth ymlaen i fod yn fetron gynorthwyol mewn ysbyty ar yr ynys.
Ond yn fuan ar ôl iddi ymddeol ar ôl oes yn y proffesiwn, cafodd ei dewis yn benodol i fod yn nyrs breswyl a derbynnydd mewn practis meddygon teulu lle bu’n gweithio nes cyrraedd yr oedran anhygoel o 75 oed.
Cafodd Grace ei geni yn un o dri o blant i deulu a oedd yn byw ym mhentref Llanfaethlu ar Ynys Môn. Bu farw ei dau frawd gryn flynyddoedd yn ôl.
Ar ôl gadael yr ysgol penderfynodd ar yrfa nyrsio ac aeth i Lannau Mersi i gwblhau ei hyfforddiant yn hen Ysbyty Plant Penbedw.
Ar ôl gweithio ar y wardiau yno am ychydig flynyddoedd, croesodd Grace y Mersi i ymuno â’r staff nyrsio yn Ysbyty Cyffredinol Sefton ar gyrion Lerpwl.
Yno y treuliodd flynyddoedd y rhyfel ac, yn ôl ei mab Ted, fe fwynhaodd bob munud o’i hamser yno er bod hyn wedi cynnwys dyddiau tywyll yr Ail Ryfel Byd.
Dywedodd Ted Jones, 73 oed, sydd bellach wedi ymddeol fel athro, ac sy’n byw yn Mhontrhydybont ar Ynys Môn: “ Fel rhywun a fu’n gweithio fel nyrs mewn ysbyty ar Lannau Mersi yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n gofalu am anafusion yr ymosodiadau awyr niferus a brofwyd yn yr ardal.
“Er ei bod wedi gweld llawer o bethau erchyll yn ystod y Blitz, ni wnaeth siarad llawer am y peth ac roedd yn well ganddi ganolbwyntio ar ei hatgofion yn gofalu am bobl.
“Dyna yr oedd yn caru ei wneud ar hyd ei hoes, a chyn iddi ddechrau nyrsio byddai’n helpu pobl a oedd yn byw yn ei phentref genedigol ar Ynys Môn.”
Ar ôl y rhyfel dychwelodd Grace, sy’n gallu siarad Cymraeg, i Ynys Môn ac ym 1942 fe briododd Ifor Jones, a oedd yn y llynges fasnachol yn Lerpwl, a gafodd ei ddyrchafu i swydd capten ar long llynges Elder Demster yn hwylio allan o’r ddinas. Mae wedi bod yn wraig weddw ers iddo farw ar ddiwedd yr 1980au.
Ar ôl genedigaeth ei phlant - Ted a’i chwaer Jan, sy’n 70 oed - ail-gydiodd Grace yn ei gyrfa a daeth yn brif nyrs yn Ysbyty Stanley Penrhos yng Nghaergybi ar Ynys Môn.
Rai blynyddoedd yn ddiweddarach symudodd i fod yn fetron gynorthwyol yn gofalu am gleifion hŷn yn Ysbyty Druid yn Llangefni.
Roedd Grace yn credu bod ei gyrfa hir wedi dod i ben ar ôl ymddeol yn 60 oed ond cafodd ei denu yn ôl i faes gofal iechyd yn fuan wedyn pan dderbyniodd wahoddiad i fod yn nyrs bractis a derbynnydd i ddau feddyg teulu, Dr Edwards a Dr Lewis yn eu meddygfa yn Llangefni, lle bu’n gweithio am gyfnod anhygoel o 15 mlynedd, gan benderfynu ymddeol ar ôl ei phen-blwydd yn 75 oed.
Dywedodd ei mab Ted, a dreuliodd 37 mlynedd fel athro yn Ysgol Uwchradd Caergybi cyn iddo ef ei hun ymddeol: “Hyd yn oed yn yr oedran hwnnw nid oedd eisiau rhoi gorau i’w swydd, ond cafodd ei darbwyllo gan bawb ei bod wedi gwneud digon erbyn hynny!
“Roedd yn gyndyn i adael ei swydd, ond fe barhaodd i fod yn brysur yn helpu yn yr hosbis yng Nghaergybi am rai blynyddoedd wedi hynny.
Fe dreuliodd Mam lawer o amser yn ymweld â phobl a oedd yno i gael gofal dydd a byddai hyd yn oed yn gyrru i’w cartrefi yn mynd â phethau fel cacennau cwstard yr oedd wedi’u coginio ei hun. Roedd yn gwneud gwaith gwirfoddol hefyd i’r elusen iechyd meddwl, MIND, ac roedd y ffaith ei bod wedi parhau i yrru ei char ei hun nes yr oedd yn 94 oed wedi ei helpu.”
Yn y pen draw, bu’n rhaid i Grace symud i gartref preswyl ym Mae Trearddur ac yna treuliodd ddwy flynedd arall mewn cartref arall yn ardal Caernarfon.
Fis Ionawr diwethaf, hi oedd un o’r preswylwyr cyntaf yng nghartref gofal newydd Bryn Seiont Newydd ar Ffordd Pant, Caernarfon, sy’n cael ei redeg gan Mario a Gill Kreft o sefydliad gofal llwyddiannus Parc Pendine.
Ac yn ystafell gerddoriaeth heulog y cartref hwn, o amgylch y piano cyngerdd bach, Grace oedd y gwestai gwadd yn ei pharti pen-blwydd yn 101 oed. Bu’r tîm gofal a nifer o aelodau ei theulu, yn cynnwys Ted a’i wraig Rita, ei merch Jan, a ddilynodd lwybr gyrfa ei mam i fyd nyrsio a threuliodd flynyddoedd lawer yn rheolwr nyrsio i’r GIG yn Camden, Llundain, a’i gŵr Peter Joseph.
Mae gan Grace dri ŵyr ac un wyres yn ogystal â thri gor-ŵyr a gor-wyres.
Hefyd ar y rhestr wadd oedd ei ŵyr, Laurence Joseph, ac roedd ei wraig Caroline yn edrych ymlaen at gyflwyno ei phumed ŵyr neu wyres i Grace ym mis Gorffennaf.
Ychwanegodd ei mab Ted: “Mae wedi bod yn weithgar ar hyd ei bywyd ac nid oes gennyf unrhyw atgof ohoni’n sâl.”
“Dwi’n credu mai rheswm arall y mae wedi cyrraedd yr oedran rhyfeddol hwn yw am ei bod yn rhan o genhedlaeth a oedd yn gryf a gwydn iawn.
“Mae wrth ei bodd gyda phobl, cyn ac ar ôl ei gyrfa nyrsio, ac rwy’n credu bod hynny wedi’i helpu i ddal ati hefyd.”
Dywedodd prif ymarferydd gofal Grace, Debbie Owen: “Mae’n wraig arbennig iawn ac mae wrth ei bodd yn cwrdd â phobl a sgwrsio gyda hwy.
“Mae hefyd yn hoff iawn o hwyl ac mae’n tynnu coes pobl o bryd i’w gilydd.”
Roedd Grace wedi mwynhau’r holl sylw yn ei pharti ond ar ôl gofyn iddi sut roedd yn teimlo wrth gyrraedd ei chanfed blwyddyn ac un, dywedodd: “Nid oes unrhyw beth arbennig am hyn.”
Dywedodd perchennog Parc Pendine, Mario Kreft MBE: "Wrth benderfynu datblygu Bryn Seiont Newydd fel gwasanaeth cymunedol, fe wnaethom gydnabod anghenion diwylliannol y gymuned a phwysigrwydd darparu cartref cwbl ddwyieithog.
"Mae gan Mrs Jones gofnod rhyfeddol o wasanaeth cyhoeddus rhagorol yn ymestyn dros 60 o flynyddoedd, ac ein nod ni yw parhau’r traddodiad o ddarparu ased pwysig i’r gymuned leol.”