Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Gorffennaf 2016

Rhwydwaith ffôn symudol cyntaf Cymru yn cael ei lansio yn Sioe Frenhinol Cymru

Mewn ychydig dros wythnos, bydd Sioe Frenhinol Cymru eleni yn agor ei drysau, a bydd busnes Cymreig lled anhysbys yn troi ymlaen y rhwydwaith telathrebu symudol ar raddfa lawn gyntaf a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer pobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Dros y 12 mis diwethaf mae RWG Mobile wedi bod yn gweithio ar greu rhwydwaith “rhithwir” y gall defnyddwyr ffonau clyfar a thabled gael mynediad ato trwy ap sy'n eu galluogi i wneud galwadau llais am ddim dros y rhyngrwyd, yn ogystal â chofrestru hyd at bump o rifau ffôn gwahanol ar gyfer proffiliau lluosog - megis galwadau personol a gwaith - ar un ddyfais.

Mae'r rhwydwaith yn cael ei gefnogi gan dîm gwasanaeth cwsmeriaid wedi’i leoli yng Nghymru sy'n gallu siarad â chwsmeriaid yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Datblygwyd RWG Mobile gan Andrew Davies a aned yn Y Rhondda.

 Mae Andrew yn gyfrifydd siartredig cymwysedig gyda phrofiad o drafod, lansio a rhedeg busnesau telathrebu llwyddiannus yn y Deyrnas Unedig, Ewrop a'r Unol Daleithiau.

Ar ôl lansio un o'r Gweithredwyr Rhwydwaith Rhithwir Symudol (MVNOs) mwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Unedig, penderfynodd Davies ddychwelyd i Gymru i weithio ar ddatblygu rhwydwaith symudol newydd - prosiect y mae’n teimlo yn frwd iawn amdano.

"Os feddyliwch chi am wlad Ewropeaidd, byddwch yn gallu nodi ei rwydwaith symudol yn rhwydd, fel France Telecom, Deutsche Telecom neu Eircom.

"Nid oes yna unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig sydd â’i rhwydwaith symudol ei hun, felly aethom ati i greu darparwr cyfathrebiadau sy'n adlewyrchu ac yn deall anghenion y boblogaeth yng Nghymru," eglura Davies.

"Bydd RWG Mobile yn cystadlu’n uniongyrchol gyda’r gweithredwyr rhwydwaith symudol mawr yng Nghymru, gan fod cystal â nhw mewn meysydd megis cyflymderau cysylltu, deialu rhyngwladol a chyfraddau galw ond yn darparu profiad defnyddiwr, cefnogaeth gwasanaeth cwsmeriaid a buddion ychwanegol sy’n unigryw i Gymru."

Bydd RWG Mobile yn cael ei lansio i ddechrau fel ap y gellir ei lawrlwytho i ffonau clyfar a thabledi Apple ac Android ac yn galluogi cwsmeriaid gael rhifau lluosog diogel y gellir eu defnyddio i wneud a derbyn galwadau dros y rhyngrwyd gan ddefnyddio cysylltiad Wi-Fi.

Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan gynnyrch SIM a fydd yn gwneud y rhwydwaith yn wirioneddol symudol, gan gynnig signal ar gyfer Cymru gyfan yn ogystal â thrawsrwydweithio rhyngwladol a chysylltiad 4G heb unrhyw gost ychwanegol.

Bydd cyfrifon sy'n defnyddio'r ap a SIM i ddechrau yn gweithredu ar dariffau "talu-wrth-fynd" safonol, gyda chredyd ychwanegol yn cael ei brynu ar-lein drwy gyfrwng yr ap neu wefan RWG Mobile.

Wrth i’r nifer o danysgrifwyr gynyddu, mae RWG yn bwriadu cyflwyno cytundebau "talu misol", cynigion arbennig a rhaglenni teyrngarwch drwy weithio mewn partneriaeth â busnesau lleol gan gynnwys manwerthwyr, darparwyr hamdden, chwaraeon ac  adloniant, busnesau gwasanaeth a gweithredwyr cludiant.

Gan edrych i'r dyfodol, mae gan Davies hefyd gynlluniau i ehangu'r brand RWG i mewn i wasanaethau ariannol, gan gynnig cardiau debyd rhagdaledig y gellir eu defnyddio mewn ATMs, mewn siopau neu ar-lein gyda galluoedd e-fancio rhyngrwyd llawn a rhaglenni teyrngarwch deniadol.

Mae Davies yn credu ei bod yn hwyr glas i bobl Cymru gael rhwydwaith symudol a gynlluniwyd yn benodol ar eu cyfer nhw ac mae'n teimlo bod y defnydd cynyddol o dechnoleg symudol wedi creu bwlch yn y farchnad ac mae RWG Mobile am geisio ei lenwi.

"Crëwyd y Rhaglen Cymru Ddigidol gan Lywodraeth Cymru yn 2010 i’n gwneud ni’n 'genedl ddigidol' ac, er y gwelwyd cynnydd mewn rhai meysydd megis cyflwyno band eang cyflymder uchel, mae meysydd eraill yn dal ar ei hôl hi.

"Rhan yn unig o’r jig-so digidol yw cael rhwydwaith symudol i Gymru, ond rydym yn gobeithio y bydd yn gatalydd ar gyfer datblygiadau pellach mewn seilwaith a gwasanaethau a fydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl Cymru i gael gwell cysylltiad a mwynhau'r manteision y gall technolegau heddiw eu cynnig."

Mae nifer y defnyddwyr ffonau clyfar yng Nghymru yn tyfu ar gyfradd o thua 8% y flwyddyn, ond mae yna fwlch sylweddol o’i gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Unedig. 

Mae’r defnydd o dabledi hefyd yn tyfu ar gyfradd o 24% y flwyddyn ond llai na hanner y boblogaeth sydd yn berchen ar un o’r dyfeisiau hyn o hyd a dim ond i 45% o’r boblogaeth y mae cysylltiad 4G ar gael iddynt o'i gymharu â 73% ar draws gweddill y Deyrnas Unedig.

Mae'r ffigurau hyn, yn ôl Davies, yn tanlinellu potensial y farchnad ar gyfer RWG Mobile.

"Mae rhai gweithredwyr rhwydwaith rhithwir wedi cael eu sefydlu mewn ymateb i'r galw gan gwsmeriaid sydd am fanteisio ar wasanaethau penodol, fel deialu rhyngwladol neu integreiddiad gyda systemau teleffoni awtomataidd, tra bod eraill yn cael eu sefydlu gan frandiau mawr sy'n ceisio croes werthu gwasanaethau ychwanegol i gwsmeriaid presennol," ychwanegodd Davies.

"RWG Mobile yw'r rhwydwaith cyntaf yn y Deyrnas Unedig sydd wedi cael ei gynllunio a'i ddatblygu i ddiwallu anghenion cenedl gyfan a dyna sy'n gwneud y prosiect mor gyffrous.

"Rhan o'n cenhadaeth yw parhau i ddatblygu a gwella’r cynnyrch drwy wrando ar ein tair miliwn o gwsmeriaid posibl a gwneud popeth y gallwn i roi iddynt yr hyn y mae arnynt ei eisiau."

Rhannu |