Mwy o Newyddion
Cyflwyno deiseb yn erbyn toriadau i'r prosiect Cymraeg i Blant
Bydd ymgyrchwyr yn cyflwyno deiseb i Lywodraeth Cymru heddiw gan alw iddynt adfer gwasanaethau prosiect Twf sy'n hybu defnydd y Gymraeg yn y teulu.
Cafodd y cynllun 'Twf' ei ddiddymu ddechrau mis Ebrill eleni, gan gael ei ddisodli gan raglen newydd 'Cymraeg i Blant' sy'n cael ei redeg gan Fudiad Meithrin.
Ond cafodd cyllideb y cynllun newydd ei dorri o ddau gan mil o bunnoedd y flwyddyn o gymharu â chyllideb Twf y llynedd.
O ganlyniad, nid yw'r prosiect newydd sy'n olynu Twf yn gweithredu mewn nifer o siroedd, ac mae'r ddeiseb yn galw am adfer swyddi sy'n rhedeg y prosiect yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Ddinbych, Sir Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy, Torfaen a Wrecsam.
Bydd aelodau Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno'r ddeiseb, sydd wedi ei llofnodi gan oddeutu naw cant o bobl, i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg, Alun Davies AC.
Meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae trosglwyddiad iaith o fewn y teulu yn allweddol os ydyn ni am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg.
"Bu'r prosiect Twf yn rhan bwysig iawn o'r ymdrech i wella defnydd o'r Gymraeg rhwng rhieni phlant, ac mae'n destun pryder na fydd unrhyw brosiect yn rhedeg mewn nifer fawr o siroedd.
"Rydym yn gobeithio wrth lunio strategaeth iaith newydd y Llywodraeth, y bydd y Gweinidog yn gwrth-droi'r toriadau hyn.
"Buddsoddi rhagor yn y Gymraeg oedd un o brif negeseuon a ddaeth o'r gynhadledd fawr drefnodd y Llywodraeth yn sgil canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad.
"Yn lle hynny, rydyn ni wedi gweld llawer llai o arian yn cael ei fuddsoddi yn y Gymraeg.
"Mae torri prosiect sy'n cynnig cymorth i blant bach a'u rhieni yn gamgymeriad."
Wedi cyfarfod gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, bydd y Gweinidog dros y Gymraeg, Alun Davies AC, yn gwneud datganiad am bolisi iaith y Llywodraeth gerbron y Senedd heddiw.
Llun: Toni Schiavone